Gweithdai 3: Memynnau, delweddau Gif a chlipiau TikToks

Ydych chi erioed wedi lawrlwytho delwedd ar hap o'r rhyngrwyd i'w defnyddio mewn cyflwyniad yn yr ysgol neu'r gwaith? Oedd gennych ganiatâd yr awdur? Pwy sy'n berchen ar y fideos am gathod a'r clipiau TikTok sy'n cael eu cylchredeg ar y rhyngrwyd? Pwy sy'n gallu hawlio perchnogaeth a defnyddio cynnwys wedi'i greu gan raglenni cyfrifiadurol megis ChatGPT?

Mae'r rhyngrwyd a thechnolegau datblygol wedi creu heriau newydd i'n dealltwriaeth a'n gallu i ddefnyddio cynnwys digidol mewn ffordd gyfreithlon a moesegol, yn ogystal â diogelu ein gwaith creadigol ein hunain. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio syniadau allweddol yn y gyfraith mewn perthynas ag eiddo deallusol a hawlfraint a sut maent yn berthnasol i'r byd digidol.

Yn Ôl i Ddyddiadau a Chofrestr