Gweithdai 4: Sylfeini Technoleg Gyfreithiol

Sut mae technoleg yn newid y diwydiant cyfreithiol a mynediad unigolyn at wasanaethau cyfreithiol? Byddwch yn dysgu am y posibiliadau a'r heriau mae technoleg gyfreithiol yn eu cynnig i'r diwydiant cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder.

Dysgwch am y technolegau cyfreithiol sy'n cael eu defnyddio fwyfwy yn y diwydiant cyfreithiol yn ogystal ag yn y system cyfiawnder. Defnyddir technoleg gyfreithiol yn fwyfwy i helpu ymarferwyr i gyflawni eu tasgau'n gynt ac yn fwy cywir, ac i hwyluso mynediad at gyfiawnder i ddinasyddion. Byddwn yn trafod hanfodion technolegau datblygol allweddol a'u perthnasedd i'r maes cyfreithiol (dysgu peirianyddol, AI esboniadwy a blockchain). Yn ogystal, byddwn yn trafod eu manteision a'u hanfanteision, yr heriau cyfreithiol a moesegol, y risgiau a'r cyfleoedd. Nid oes angen cefndir technegol penodol i gymryd rhan yn y sesiwn hon.

Yn Ôl i Ddyddiadau a Chofrestr