Cyfleusterau
Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wrth wraidd Campws Parc Singleton y Brifysgol yn cynnwys:
- Labordy'r Gyfraith a Deallusrwydd Artiffisial lle gall ymchwilwyr ym maes y Gyfraith a Chyfrifiadureg ddatblygu, profi a chymhwyso technegau newydd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a phrosesu iaith naturiol.
- Ystafelloedd ymchwil i wrthderfysgaeth, gan gynnwys man i weithio ar ddata sensitif a chydweithio â phartneriaid o (e.e.) asiantaethau diogelwch, cwmnïau gorfodi’r gyfraith a chwmnïau technoleg er enghraifft.
- Canolfan Ymchwil a Datblygu TechGyfreithiol lle gall cwmnïau technoleg a’r gyfraith gydweithio ag ymchwilwyr - a chyda thîm meddalwedd y gweithrediad - i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a thechnegau newydd.
- Clinig y Gyfraith lle gellir cefnogi arloesedd a chydweithio, gan arwain at chwilio am apiau a phlatfformau sy’n cefnogi mynediad at gyfiawnder, eu datblygu a’u cyflwyno.
- Mannau cydweithio y gellir eu defnyddio i ymgysylltu â phartneriaid ymchwil o’r diwydiant, y byd academaidd, sefydliadau nid-er-elw, cwmnïau gorfodi’r gyfraith ac elusennau.