Aozhuo Cui (Tsieni)
Mae gan Aozhuo radd baglor o Brifysgol Heilongjang. Yna aeth ymlaen i gwblhau ei LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017, gan raddio gyda theilyngdod.
Ymunodd â phencadlys Tsieineaidd C.H Robinson (cwmni logisteg trydydd parti blaenllaw yn America) ym mis Rhagfyr 2017, gan weithio fel Cynorthwy-ydd Cyfreithiol yn eu Hadran Gyfreithiol lle mae'n gweithio'n agos â'r rhai sy'n trosglwyddo llwythi (e.e. NVOCC), llongiadwyr, cwmnïau morio etc. Yn ogystal, mae hi hefyd yn delio â materion amrywiol ynghylch cludo nwyddau ar y môr, yn yr awyr, ar y tir, ar y ffordd, trafnidiaeth mewn tryciau ac amlfodd. Mae hefyd yn ymdrin â materion ysgrifenyddol y cwmni ar adegau.
Ellie Hu (Hanxin Hu) (Tsieini)
Cymhwysodd Ellie (Minty) Hu, myfyrwraig LLM o ddosbarth 2016, i fod yn gyfreithiwr PRC ym mis Mawrth eleni. Mae'n gweithio i Sloma & Co., un o'r cwmnïau cyfreithiol Tsieineaidd gorau sy'n arbenigo ym meysydd cyfraith morgludiant a morwrol rhyngwladol, ar ôl derbyn y swydd ar ôl iddi raddio. Mae'n ymwneud â thrafod hawliadau a materion morwrol, gan gynnwys gwrthdrawiadau, ceisiadau cargo, materion yswiriant morol, anghydfodau ar siarteri llongau etc.
Yn ddiweddar, mae wedi cymryd rhan mewn digwyddiad cyflafareddu yn Llundain gan gael canlyniad boddhaol. Mae hefyd yn rhan o drin achos cymhleth ar gyfer cario nwyddau cenedlaethol, gan gynnwys achub, materion GA, ceisiadau cargo, cyfyngu ar atebolrwydd a materion yswiriant morol etc. Mae'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn cynadleddau morwrol rhyngwladol.
Amanpreet Singh Gosal (India)
Cwblhaodd Amanpreet ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Cyfreithiwr Cyswllt yn y tîm morio yn Clasis Law, Mumbai. Mae Clasis Law yn gwmni cyfreithiol sy'n cynnig gwasanaeth llawn yn India a chanddo weledigaeth, cwmpas, profiad a gallu gwirioneddol ryngwladol. Mae'r cwmni yn cynrychioli corfforaethau, yswirwyr ac ailyswirwyr, banciau buddsoddi a sefydliadau ariannol eraill, cwmnïau awyrennau a chanolfannau masnachi rhyngwladol o bwys.
Shevan Anthony Algama (Sri Lanka)
Enillodd Shevan ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2011. Ar ôl cwblhau interniaeth a gynigiwyd iddo yn y Ffair Gyrfaoedd LLM, mae bellach wedi’i gyflogi fel Ymdriniwr Hawliadau yn y Shipowners’ Club, yswiriwr atebolrwydd morol blaenllaw sy’n cynnig yswiriant diogelu ac indemnio, Cymorth Cyfreithiol ac Amddiffyn ac yswiriant cysylltiedig i berchenogion llongau bach ac arbenigol ledled y byd.
Yu Zheng (Tsieina)
Cwblhaodd Yu ei gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2013. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn Maersk Line, gweithredwr llongau â chynwysyddion mwyaf y byd, fel Cynghorydd. Mae’n gweithio’n agos â llongwyr/cwmnïau sy’n danfon llwythi a dosbarthwyr byd-eang i drefnu contractau ar gyfer cludo nwyddau dros y môr ledled y byd. Mae Yu hefyd yn ymdrin ag amrywiol faterion sy’n ymwneud â masnach ryngwladol a chyfraith cludo, gan gynnwys hawliau sy’n ymwneud â llwythi a materion sy’n ymwneud ag yswiriant.
Qiu Yuhao (Tsieina)
Enillodd Qiu radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2010. Yn fuan ar ôl iddo raddio, dechreuodd weithio fel cyfreithiwr yn Wang Jing & Co., cwmni cyfraith forol blaenllaw a enillodd wobr Cwmni Cyfraith Forio Gorau’r Flwyddyn yn ddiweddar yng Ngwobrau Blynyddol y Gyfraith ALB yn 2016. Mae’n ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â morio, yswiriant a materion cyfraith fasnach ryngwladol.
Jianya Xu (Tsieina)
Graddiodd Jianya â gradd LLM mewn Eiddo Deallusol ac Ymarfer Masnachol yn 2014. Mae'n gweithio i gwmni cyfreithiol Zhejiang T&C, y cwmni cyfreithiol gorau yn Nhalaith Zhejiang yn Nhsieina, fel cyfreithiwr IP. Mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar faterion hawlfraint, yn enwedig mewn perthynas â ffilmiau a theledu, cerddoriaeth a gwaith arall. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn cyfnewid diwylliannol a chydweithrediad IP rhwng y DU a Tsieina. Wrth astudio ar gyfer ei gradd LLM yn Abertawe, gweithiodd Jianya tuag at feithrin cydberthynas ffurfiol rhwng Zhejiang T&C a Capital Law yng Nghaerdydd.
Lu Wang (Tsieina)
Cwblhaodd Lu ei gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Gwarantwr Yswiriant Morol yn Tian An Insurance Co., Ltd. Ymhlith pethau eraill, mae Lu yn gyfrifol am hawliadau Yswiriant Llwythi Morol Cefnforol, ymdrin â hawliadau ac achosion Cyfartaledd Cyffredinol drwy gydweithredu ag Asiantaethau Arolygu, megis W K Webster a W. E Cox Claims Group.
Longting Wang (Tsieina)
Enillodd Longting Wang ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi yn Wintell & Co., sef un o'r prif gwmnïau cyfraith forol yn Tsieina.
Rasvanvalai Vanno (Gwlad Thai)
Cwblhaodd Rasvanvalai ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel cwnsler cyfreithiol yn SCG Legal Counsel Ltd, sef cwmni cyfreithiol blaenllaw sy'n goruchwylio materion cyfreithiol ar ran SCG, sefydliad cyfun mwyaf Gwlad Thai â mwy na 200 o is-gwmnïau yn lleol a thramor. Mae Rasvanvalai yn rhoi cyngor cyfreithiol i amrywiol sectorau, gan gynnwys morio a logisteg.
James Tian (Tsieina)
Cwblhaodd James ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Derbyniodd James swydd fel Ymdriniwr Hawliadau yng nghlwb diogelu ac indemnio Llundain, gan ymdrin â hawliadau diogelu ac indemnio ac FD&D ar ran aelodau'r Clwb yn y Dwyrain Pell. Ym mis Hydref 2015, symudodd James i swyddfeydd Hapag-Lloyd AG yn Singapôr - sef pencadlys y cwmni yn Asia. Ers hynny, bu James yn gweithio fel Rheolwr yn nhîm Rheoli Risg Yswiriant Corfforaethol y cwmni, yn goruchwylio/ymdrin â'r holl hawliadau (diogelu ac indemnio/FD&D) sy'n gysylltiedig â Tsieina (gan gynnwys Taiwan).
Mudit Singh (India)
Ar ôl cwblhau'r radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn llwyddiannus (gan ennill rhagoriaeth) yn 2007, gweithiodd Mudit i yswiriwr diogelu ac indemnio masnachol fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol am 4 blynedd. Wedyn, symudodd i weithio fel Ymdriniwr Hawliadau yn The Shipowners' Protection Ltd. Cymhwysodd hefyd fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr ac mae cyfrifoldebau ei swydd bresennol yn cynnwys ymdrin â hawliau diogelu ac indemnio o ddydd i ddydd, gan ganolbwyntio ar atebolrwydd llwythi, anafiadau personol, Morlys a digwyddiadau sy'n achosi anafiadau i bobl (gwrthdrawiadau ac FFO) yn ogystal â rhwymedigaethau sy'n deillio o dan wahanol gontractau halio. Mae hefyd yn ymdrin â hawliadau FD&D gan aelodau o Dwrci, Gwlad Groeg a Cyprus yn ogystal â Rwsia, Wcrain a gwledydd eraill yn Ewrop.
Zaid Sayed (Jordan)
Bu Zaid yn gyfreithiwr cofrestredig yn Jordan ers 2005. Ar ôl cwblhau ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2009, penodwyd Zaid yn Rheolwr Contractau ar gyfer yr Arab Bank yn 2010. Wedyn, symudodd i Mashreq Bank (UAE) i weithio fel Rheolwr Cyfreithiol (Is-lywydd Cynorthwyol). Ar hyn o bryd, caiff Zaid ei gyflogi yn MetLife fel Cwnsler Cyfreithiol ar gyfer Gwledydd y Gwlff. Mae MetLife yn un o'r cwmnïau yswiriant bywyd mwyaf yn y byd ac mae'n gwasanaethu tua 100 miliwn o gwsmeriaid. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau'r cwmni yn cydymffurfio â chyfreithiau UAE, Oman, Bahrain, Qatar a Kuwait. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori cyfreithiol i amrywiol adrannau'r cwmni ar yswiriant a materion cysylltiedig eraill.
Munhak Pahk (De Korea)
Cwblhaodd Mun ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2015. Cyn cwblhau ei radd LLM, ymgymerodd ag interniaethau â chwmnïau cyfraith forol ryngwladol yn Llundain (Stephenson Harwood, Mays & Brown Solicitors, Tatham Macinnes LLP) a Newcastle (Mills & Co). Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel uwch gyfreithiwr yn Sejin LLC, cwmni cyfreithiol yn Busan. Fel rhan o'i waith, mae Mun yn ymdrin ag achosion cyfraith forol a chyfraith fasnach ryngwladol. Mae hefyd yn gweithio i Gymdeithas Forio Korea (KSA), clwb diogelu ac indemnio yn Korea i berchenogion llongau domestig. Yn ogystal, yn fuan wedi iddo ddychwelyd i Dde Korea, fe'i gwahoddwyd i gymryd rhan mewn pwyllgor a sefydlwyd gan Gymdeithas Bar Busan sy'n ymchwilio i'r angen am lys morol ar wahân yn Ne Korea.
Norazimah Mazlan (Malaysia)
Cwblhaodd Norazimah ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2013. Ar ôl iddi raddio, gweithiodd fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol yn Total Marine & Claims Services, gan arbenigo mewn hawliadau atebolrwydd gweithredwyr porthladdoedd a therminysau. Mae bellach yn ddarlithydd yn Athrofa Technolegau Morol yr Iseldiroedd (NMIT), Malaysia, lle mae'n addysgu Yswiriant Morol a Chludo Nwyddau dros y Môr.
Belinda Lou (Tsieina)
Cwblhaodd Belinda ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Ar hyn o bryd, mae'n Gynorthwy-ydd GM yn CapitalBulkCarrier (HK) Ltd, cwmni sy'n berchen ar longau ac yn gweithredu llongau, sy'n darparu gwasanaethau llogi llongau a chludo. Mae Belinda yn ymwneud ag agweddau cyfreithiol a masnachol ar weithrediadau'r cwmni, ac yn benodol, mae'n rhoi cyngor cyfreithiol ar atal a rheoli risg - mewn perthynas â chymalau CP yn bennaf. Mae hefyd yn trefnu yswiriant ar gyfer perchenogion llongau ac unigolion sy'n llogi llongau, ac yn cymryd rhan mewn achosion cyflafareddu. Yn ogystal, mae'n cymryd rhan mewn prosiectau pwysig, ac mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu busnes rhyngwladol newydd a chynnal cydberthnasau â chleientiaid.
Shirley Liu (Tsieina)
Enillodd Shirley ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2009. Mae'n Uwch Bartner yng nghwmni cyfreithiol Globe-Law, cwmni cyfreithiol partneriaethol mawr a chynhwysfawr. Mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar achosion morol, morlys a masnach ryngwladol. Mae wedi helpu nifer o gwmnïau morio domestig a thramor mawr, clybiau diogelu ac indemnio, cwmnïau masnach a phorthladdoedd i ymdrin ag amrywiaeth o anghydfodau, gan gynnwys anghydfodau yn ymwneud â chludo nwyddau, adeiladu llongau, damweiniau llongau, llygredd olew yn y môr, yswiriant diogelu ac indemnio, adeiladu porthladdoedd a gwerthu nwyddau ar sail ryngwladol.
Yunlong Li (Tsieina)
Ar ôl ennill ei Radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol o Brifysgol Abertawe yn 2007, ymunodd Yunlong ag un o'r cwmnïau cyfreithiol mwyaf yn Tsieina, ALLBright Law Offices, yn Shanghai. Ar hyn o bryd, mae Yunlong yn bartner yn ALLBright Law Offices. Mae ei ymarfer yn cynnwys buddsoddiadau corfforaethol, gwarannau a marchnadoedd cyfalaf, uno a chaffael, ad-drefnu corfforaethol a datrys anghydfodau. Mae gan Yunlong brofiad helaeth yn darparu gwasanaethau cyfreithiol er mwyn buddsoddi mewn mentrau a phrosiectau adeiladu eiddo mawr a chyllido'r mentrau a'r prosiectau hynny, gan gynnwys caffael ac ad-drefnu corfforaethol, cyd-fentrau ailstrwythuro stociau, darpariaethau cyhoeddus, dyroddi bondiau, ailstrwythuro ac ailgyllido cwmnïau rhestredig, buddsoddiadau ecwiti preifat, yn o gystal â chyllido, adeiladu, gweithredu a throsglwyddo prosiectau eiddo mawr.
Le Li (Tsieina)
Graddiodd Le yn 2008. Mae ganddi radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio yn Swyddfa'r Llywydd yn Huaxin Insurance Brokers Co. Ltd, yn Beijing.
Shengyi Jiang (Tsieina)
Cwblhaodd Shengyi ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2012. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi fel Cyfreithiwr Morio Gweithredol yn COSCO SOUTH EAST ASIA Ltd. yn Singapôr. Mae ei swydd yn COSCO yn cynnwys monitro llongau a llwythi ar wasanaethau cwmnïau cynwysyddion. Yn ystod ei gyfnod yn astudio yn Abertawe, cafodd hefyd y cyfle i ymgymryd ag interniaeth â Holman Fenwick Willan LLP a Willis, un o gwmnïau gwasanaethau proffesiynol mwyaf y byd yn arbenigo mewn broceru yswiriant a rheoli risg, a wellodd ei ddealltwriaeth ymarferol o gyfraith forio ac yswiriant.
Qin He (Tsieina)
Enillodd Qin radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2008. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi yn COSCO International Freight Co. Ltd.