Pam dylech chi astudio am eich gradd meistr yn y gyfraith gyda ni?
Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, ac sy'n darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Mae Abertawe'n ddinas a chanddi draddodiad morwrol hirsefydlog. Yn y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raddau LLM ym meysydd cyfraith fasnachol, forwrol, fasnachu, olew a nwy ac eiddo deallusol.
- LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol
- LLM mewn Cyfraith Masnachu Ryngwladol
- LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol
- LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol
- LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy
- LLM mewn Eiddo Deallusol ac Arloesi
- LLM mewn TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol
Byddwch yn astudio mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o’r Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol, Asia, De-ddwyrain Asia, Affrica, America ac Ewrop. Caiff myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis dadlau mewn ffug-lysoedd barn ac ysgolion haf dramor.
Mae aelodau’r IISTL ar flaen y gad o ran ysgolheictod yn eu meysydd arbenigol, ac mae eu haddysgu medrus ac arloesol yn pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer.
Caiff graddedigion wneud cais i gael eu heithrio rhag sefyll sawl arholiad cymhwysedd proffesiynol Sefydliad y Broceriaid Llongau Siartredig a'r Sefydliad Yswiriant Siartredig. Os ydych yn cwblhau'r modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus, cewch wneud cais i gael eich eithrio rhag gofynion addysg lefel 2 aelodaeth CIArb, sy'n caniatáu i chi wneud cais am aelodaeth y Sefydliad neu MCIArb.
Mae'r Adran Cyfraith Llongau a Masnach yn cynnig cymorth bugeiliol ardderchog a dosbarthiadau iaith Saesneg am ddim er mwyn eich helpu i wella eich sgiliau meddwl ac ysgrifennu beirniadol yn y gyfraith.
Rydym yn elwa o gysylltiadau agos ag ymarferwyr y gyfraith ac elfennau amrywiol o’r sectorau llongau a busnes, ac rydym yn trefnu mentrau cyflogadwyedd megis sgyrsiau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, Ffair Yrfaoedd LLM flynyddol, digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â chwmnïoedd blaenllaw yn Ninas Llundain.
Mae graddedigion o raglen LLM Abertawe yn hynod gymwys i fentro i'r farchnad swyddi fyd-eang. Gwyliwch y fideo i weld beth sydd ganddynt i'w ddweud am y Sefydliad.