Ap ffôn clyfar newydd i helpu busnesau

Mae ap newydd ar gyfer ffonau clyfar, a ddatblygwyd gan y swyddfa Eiddo Deallusol gyda chymorth IP Cymru, wedi cael ei lansio er mwyn  helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) i fynd i'r afael â materion Eiddo Deallusol.                                                                                                                                                           

Mae IP Cymru, menter cymorth busnes a weithredir gan Brifysgol Abertawe a'r Swyddfa Eiddo Deallusol, wedi datblygu'r ap yn benodol at ddefnydd Busnesau Bach a Chanolig.  Caiff defnyddwyr yr ap ddysgu beth yw eu Heiddo Deallusol, a sut gellir ei ddefnyddio i wella eu busnesau.  Bydd hefyd yn rhoi mynediad i adnoddau Eiddo Deallusol y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio all-lein.

Mae'r adnoddau'n cynnwys canllawiau am ddim i ddeall arloesi ac asedau deallusol agored a sut i rwystro'ch cystadleuwyr rhag cael mynediad i'ch eiddo deallusol ac ychwanegu gwerth o asedau deallusol.

Bydd yr ap hefyd yn galluogi'r defnyddiwr i gyrchu cyflwyniadau am ddim am reoli asedau deallusol, a allai fod o gymorth i ymchwilwyr ôl-raddedig ym meysydd biotechnoleg, cyfrifiadureg a pheirianneg.

Bydd yr ap hefyd yn darparu dolenni i'r newyddion diweddaraf a thrydarau gan y Swyddfa Eiddo Deallusol ac mae hefyd ar gael mewn fersiwn i ddefnyddwyr â nam ar y golwg.

Meddai Andrew Beale, Cyfarwyddwr IP Cymru: "Mae IP Cymru wrth ei fodd yn gweithio gyda'r Swyddfa Eiddo Deallusol i ddatblygu'r adnodd newydd arloesol hwn i helpu Busnesau Bach a Chanolig. Mae holl bwyslais ein gwaith yma ar helpu busnesau bach a chanolig i ddod o hyd i wybodaeth am ddim er mwyn sicrhau eu bod yn deall ac yn diogelu eu heiddo deallusol, eu bod yn gallu gwreiddio eu strategaeth eiddo deallusol yn eu cynlluniau i gynnal a thyfu eu busnesau drwy ddefnydd masnachol o'u hasedau eiddo deallusol."

Mae IP Cymru'n fenter cymorth busnes arobryn gwerth £4m. Caiff ei rheoli gan Ysgol y Gyfraith yng Ngholeg Busnes, Economeg a'r Gyfraith Prifysgol Abertawe, sy'n cynorthwyo BBaCh gyda materion eiddo deallusol ac yn esbonio defnydd o batentau, nodau masnach, cynlluniau diwydiannol, hawlfraint, cronfeydd data a hawliau. Mae IP Cymru hefyd yn cynnig canllaw ar-lein am ddim i eiddo deallusol, sy'n darparu gwybodaeth ar unwaith am y materion eiddo deallusol y mae angen i fusnesau fynd i'r afael â nhw, ac yn gweithio gyda'r rhai sy'n chwilio am dechnoleg newydd i gynghori cwmnïau ymchwil a datblygu ar gyfleoedd technoleg.

I gysylltu ag IP Cymru, e-bostiwch: a.j.beale@swansea.ac.uk 

www.swansea.ac.uk/media-centre/latest-news/newsmartphoneapptohelpbusinesses.php