Yr Ôl-lyngesydd Frederick J Kenney
JD (cum laude) Prifysgol San Francisco, BA Prifysgol Talaith Michigan, Proctor yn y Morlys (UD)
Mae'r Llyngesydd Kenney yn Gyn-gyfarwyddwr yr Adran Materion Cyfreithiol a Chysylltiadau Allanol yn y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol (IMO), lle bu'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i Ysgrifenyddiaeth y Sefydliad a'r 175 o aelod-wladwriaethau, â phwyslais penodol ar gyfraith y môr a chyfraith cytuniadau.
Yn ystod pandemig COVID-19, y Llyngesydd Kenney oedd Cadeirydd Tîm Gweithredu ar gyfer Morwyr mewn Argyfwng yr IMO, gan ddarparu ymyrraeth a chymorth i forwyr nad oedd modd iddynt ddod adref oherwydd y pandemig. Yn 2022 bu'r Llyngesydd Kenney ar secondiad gyda'r Cenhedloedd Unedig, lle'r oedd yn rhan o'r tîm negodi ac yn ddiweddarach bu'n Gydlynydd Cychwynnol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Menter Grawn y Môr Du.
Cyn ei wasanaeth gyda'r Cenhedloedd Unedig/yr IMO, gwasanaethodd y Llyngesydd Kenney am 33 o flynyddoedd gyda Gwylwyr y Glannau'r Unol Daleithiau, cyn cael ei benodi'n Farnwr Adfocad Cyffredinol ac yn Brif Gwnsler. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Pennaeth, y Swyddfa Cyfraith Forwrol a Rhyngwladol, a nifer o rolau cyfreithiol a gweithredol eraill, gan gynnwys Prif Swyddog, Tîm Tactegol Gorfodi'r Gyfraith Ardal y Môr Dawel Gwylwyr y Glannau'r Unol Daleithiau a gwasanaeth ar long torri iâ pegynol.
Ar hyn o bryd, mae'r Llyngesydd Kenney yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Forwrol y Byd a Sefydliad Cyfraith Forwrol Ryngwladol yr IMO. Cyn hyn, bu'n Athro Cynorthwyol Cyfraith Forwrol yng Nghanolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a phenodau llyfr. Ymunodd â'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol fel cymrawd ymweld yn 2023 ac mae'n addysgu ac yn gwneud ymchwil yn y Sefydliad.