Paul Dean, Cymrawd Ymweld yr IISTL
Pennaeth Byd-eang Morgludiant gyda chwmni cyfreithiol HFW yw Paul, sy'n rheoli dros 200 o gyfreithwyr morgludiant arbenigol ar draws rhwydwaith byd-eang HFW o 20 swyddfa. Mae Paul yn arbenigo mewn gweithgareddau alltraeth a morol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar siarteri llogi llongau, biliau llwytho, adeiladu llongau, anghydfodau rigiau, gwrthdrawiadau, tân a ffrwydradau, achub, cyfartaledd cyffredinol, llongau'n mynd ar y creigiau, cyfanswm colled, halio, seismig a chyfyngiad.
Mae'n siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau llongau alltraeth ac yn eu cadeirio ac mae wedi bod yn addysgu ar banel BIMCO ar gyfer ei gwrs “Using SUPPLYTIME” am dros 10 mlynedd, y pwyllgor adolygu SUPPLYTIME 2005 ac ar bwyllgor drafftio ffurflen safonol newydd BIMCO sef Cytundeb Gwasanaethau Datgysylltu Alltraeth DISMANTELCON. Mae profiad o weithio i glwb P&I Grŵp Rhyngwladol sy'n arbenigo mewn llongau alltraeth, yn galluogi Paul i gyfuno dealltwriaeth ymarferol â'i rôl gyfreithiol.
Caiff Paul ei gydnabod yn y Cyfeiriaduron Cyfreithiol fel un o'r unigolion mwyaf blaenllaw yn ei feysydd ac mae'n cael ei gydnabod gan Restr Lloyd's fel un o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol yn y diwydiant morwrol ac un o 10 cyfreithiwr gorau'r farchnad yn 2019 a 2020.
Mae Paul hefyd wedi cyfrannu at y ddau argraffiad diweddaraf o “The Law Of Tug and Tow ac Offshore Contracts” a olygwyd gan Simon Rainey CB a'r Arglwydd Clarke.
Mae Paul yn gyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr ac mae'n gweithio gydag aelodau’r IISTL ar brosiectau amrywiol ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at ddigwyddiadau a drefnir gan yr IISTL.