Yr Athro D.Rhidian Thomas
LLB (Cymru), MA (Sheffield), LLD (Anrh.) (Gothenburg) ACIArb, Athro Emeritws Cyfraith Forwrol, Cyfarwyddwr Sefydlol yr IISTL
Mae gan yr Athro Thomas raddau o brifysgolion Cymru a Sheffield, ac fe'i penodwyd yn Athro Cyfraith Forwrol ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe yn 2000. Bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr y Sefydliad tan fis Medi 2010 ac mae bellach yn cadw teitl y Cyfarwyddwr Sefydlol. Bu gynt yn Athro'r Gyfraith ym Mhrifysgol East Anglia ac mae wedi addysgu mewn sawl sefydliad dramor gan gynnwys Prifysgol Genedlaethol Singapôr, Prifysgol Windsor, Canada, Prifysgol Gothenberg, Sweden, Prifysgol Bologna, yr Eidal, ac yn Sefydliad y Gyfraith Forwrol Ryngwladol IMO ym Malta. Rhwng 1989 a 1999 bu'n Athro Cynorthwyol y Gyfraith ar raglen London Law Prifysgol Detroit Mercy ac yn Gyfarwyddwr Seminarau Cyfraith Llongau Lloyd's List.
Bu'n aelod o’r Pwyllgor Cynghori Adrannol ar Gyfraith Cyflafareddu a ddrafftiodd Ddeddf Cyflafareddu 1996. Yn 2010/2011, bu ganddo Gadair Franqui ym Mhrifysgol Leuven, Gwlad Belg ac yn 2014 cyflwynodd Ddarlith Goffa'r Athro Kurt Gronfors ym Mhrifysgol Gothenburg. Yn 2019, dyfarnwyd iddo Ddoethuriaeth Er Anrhydedd mewn Cyfreithiau gan Brifysgol Gothenburg ac yn 2022 traddododd Ddarlith Goffa'r Athro William Tetley ym Mhrifysgol Tulane (UDA).
Mae'n aelod o'r Comite Maritime International (a'r Pwyllgor Sefydlog ar Gyfraith Yswiriant Morol), Cymdeithas Cyfraith Forwrol Prydain (mae'n gyn-Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar Forgeisi ac Arestio Llongau), Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr, ac yn Aelod er Anrhydedd Cymdeithas Cyfraith Forwrol Croatia.
Mae'n Brif Olygydd y Journal of International Maritime Law ac yn aelod o fyrddau golygyddol Shipping &Trade Law a Comparative Maritime Law.
Mae ei ddiddordebau addysgu ac ymchwil ym meysydd cyfraith y Morlys, forwrol a llongau, cyfraith yswiriant morol, cyfraith fasnach ryngwladol a datrys anghydfodau. Mae wedi ysgrifennu, golygu a chyfrannu at nifer o lyfrau ac wedi cyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion academaidd a phroffesiynol. Ar hyn o bryd mae'n golygu cyfrol 5 yn y gyfres The Modern Law of Marine Insurance.
Mae hefyd yn ymgynghorydd ac yn dyst arbenigol.