Dr Tabetha Kurtz-Shefford
BA (BRYSTE), MA YN Y GYFRAITH (BRYSTE), LPC (OXILP), LLM (ABERTAWE), PHD (ABERTAWE)
Penodwyd Tabetha yn ddarlithydd mewn cyfraith fasnachol a morwrol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013 a chafodd ei dyrchafu'n uwch-ddarlithydd yn 2018. Mae ganddi radd israddedig a gradd Meistr yn y Gyfraith gan Brifysgol Bryste yn ogystal ag LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol gan Brifysgol Abertawe. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei PhD mewn atebolrwydd am lygredd olew alltraeth ac mae hi wedi cyhoeddi llyfr ar y pwnc.
Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ynni alltraeth, cyfraith y morlys a chyfraith masnach ryngwladol.