Nerth cydweithredu
Ym Mhrifysgol Abertawe, credwn ni mewn nerth cydweithredu. Dechreuon i fywyd fel Prifysgol a oedd yn gweithio er lles busnesau a diwydiant lleol ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny, yn effeithiol iawn, ond dros y blynyddoedd rydyn ni wedi ymestyn ein cylch gwaith a bellach rydyn ni’n gweithio gyda rhai o’r meddyliau gorau mewn rhai o’r sefydliadau mwyaf nodedig ar draws y byd. Mae nodau ein partneriaeth yn cynnwys datrys materion cymdeithasol, gwella’r economi, gwella diwydiant, deall newid yn yr hinsawdd a’i leihau, a gwella bywydau pobl trwy ymchwil iechyd.
Ymchwil ryngwladol
Mae ymchwil ryngwladol yn allweddol er mwyn i ni gyflawni ein nodau ym maes datblygu strategol ac mae’n cynnwys nifer o fuddion: mae’n caniatáu i ni lunio cyhoeddiadau rhyngwladol ar y cyd, mae’n hwyluso datblygiad staff ac yn caniatáu i ni rannu cyfleusterau o safon fyd-eang.
Mae ein Partneriaethau Strategol Rhyngwladol hynod o lwyddiannus wedi caniatáu i ni ffurfio rhwydweithiau academaidd ardderchog gan arwain at gyflwyno ceisiadau am grantiau ar y cyd, cynnal cynadleddau ar y cyd a chyflwyno cyfnodolion ar y cyd. Gallwn ni elwa o gyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein sefydliadau partner gan gynnwys y cyfleusterau yn Universitie Grenoble Alpes a’r prifysgolion sy’n rhan o’n Partneriaeth Strategol Texas, a chynyddu ymgysylltu strategol ymhellach drwy fod yn rhan o Jiangsu–UK 20+20 World-Class University Consortium.
Gwella'r economi fyd-eang trwy gydweithredu
Mae cydweithredu gyda diwydiannau lleol allweddol wedi bod yn rhan fawr o’n stori lwyddo dros y ganrif ddiwethaf. Heddiw, mae ein hymchwil wedi cael effaith ar bob cyfandir; o brosiectau gydag Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Sweden, i Ganolfan Ymchwil Biobrawf Siapan; mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth ar draws y byd.
Rydyn ni’n rhoi gwerth enfawr ar amrywiaeth barn a chredwn mai gweithio ag eraill yw’r ffordd orau o ddod o hyd i atebion ac i archwilio syniadau newydd. Rydyn ni hefyd yn angerddol am weithio’n agos gydag elusennau a llywodraethau er mwyn archwilio sut i helpu’r rhai mewn perygl mewn cymdeithas a dylanwadu ar bolisi er mwyn eu diogelu nhw.
Darllenwch rai o’n hastudiaethau achos i weld sut mae ein hymchwil yn ceisio gwella bywydau ar draws y byd.
Ein lleoliad buddiol
Rydyn ni mewn lleoliad perffaith ar lan y môr ac yn agos at Tata Steel Port Talbot, felly mae ein lleoliad yn caniatáu i ni arddangos rhywfaint o’n hymchwil sy’n arwain yn fyd-eang mewn economi ddur ac economi las. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gan gynnal ymchwil sy’n torri tir newydd ym maes meddygaeth a gwyddorau iechyd. Mae cydweithio â Chwmnïau Bach a Chanolig a chwmnïau byd-eang wedi arwain at helpu i ddatblygu dur gwyrddach, glanach a fwy clyfar, gan arbed arian i’r diwydiant a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.