Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio gyda miloedd o sefydliadau preifat a sefydliadau o’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, a’r rheiny o bob math a maint, i ysgogi twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi’r gymuned leol a diwylliant Cymru a chyfrannu at iechyd a lles ein dinasyddion.
Fel Prifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi’i lleoli mewn un o’r rhanbarthau mwyaf difreintiedig yng ngogledd Ewrop (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd), mae datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthol yn brif flaenoriaeth sy’n ein cymell i weithio ar dros 30 o brosiectau cydweithredol academaidd/diwydiannol a ariennir gan yr UE ac sy’n cael ei harwain gan alw. Mae’r prosiectau hyn, sy’n werth dros £130 miliwn, yn cyflwyno manteision economaidd a chymdeithasol i Gymru ar hyn o bryd, gan ysgogi buddsoddi mewnol, creu swyddi newydd, cynyddu sgiliau’r gweithlu a chefnogi’r gwaith o sefydlu ac ehangu sefydliadau newydd.