Cyfres newydd o'r podlediad ‘Archwilio Problemau Byd-eang’
Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a ChatGPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu? A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau i ddiogelwch? Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau eraill yn cael eu hateb yng nghyfres ddiweddaraf y podlediad ymchwil ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle mae academyddion o Brifysgol Abertawe yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.
Darganfod mwy
Bydd ffyniant bro yn methu os na fydd Llywodraeth y DU yn diogelu ymchwil ac arl
"Ers amser maith mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei huchelgeisiau o ran ffyniant bro ar draws y wlad. Ond os bydd y Llywodraeth yn methu diogelu ymchwil ac arloesi, yr effaith fydd cynnydd mewn anghydraddoldeb a fydd yn anfantais i ni’n benodol yma yng Nghymru."
Dyna oedd y neges i Aelodau Seneddol pan siaradodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar, ochr yn ochr â chynrychiolwyr prifysgolion yng Nghymru.
Darllen mwy
Technoleg y gofod i grebachu wrth i derfynau ffiseg cwantwm gael eu profi
Mae consortiwm ledled y DU yn datblygu technolegau i ddefnyddio nanoronynnau fel synwyryddion o'r radd flaenaf ar loerennau'r un maint â blwch esgidiau a elwir yn CubeSats. Dyfarnwyd £250,000 i brifysgolion Warwig, Abertawe a Strathclyde i ddatblygu ymchwil i nanoronynnau a ffiseg cwantwm wrth roi technoleg y gofod ar waith.
Darllen mwy
Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.