Mae Prifysgol Abertawe'n awyddus i gefnogi dawn ragorol sy'n datblygu mewn gwahanol feysydd ymchwil cyffrous. Disgwylir i Rownd 10 Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI agor ar 3 Chwefror 2025, a dyddiad cau UKRI fydd 18 Mehefin 2025. Mae'n cynnig cymorth hirdymor a hyblyg, gan gynnwys cyflog y cymrawd a chostau ymchwil, staff a hyfforddiant, yn ogystal â'r cyfle i gael swydd academaidd barhaol ar ôl cwblhau'r gymrodoriaeth yn llwyddiannus. Oherwydd natur hynod gystadleuol y cymrodoriaethau hyn a therfyn ar nifer y ceisiadau llawn y caiff pob sefydliad eu cyflwyno, mae'r Brifysgol yn cynnal galwad am Fynegiannau o Ddiddordeb gan aelodau staff mewnol ac allanol.
Y dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb yw 6 Ionawr 2025 (10:00).
Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal gweminar ar 2 Rhagfyr 2024 am 11:00 (dros Zoom) i ddarparu gwybodaeth gychwynnol am y cynllun a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Cofrestrwch yma.
CAEL MWY O WYBODAETH TRWY YMUNO Â'N WEBINAR
Bydd yr Hybiau Ymchwil ac Arloesi yn cynnal gweminar ar 18 Ionawr am 1:00yp (drwy Zoom) i ddarparu gwybodaeth gychwynnol am y cynllun a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Gallwch gofrestru am y weminar yma.
Amcanion Cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yw:
AMCANION CYNLLUN CYMRODORIAETH ARWEINWYR Y DYFODOL YW:
Datblygu, cadw, denu a chynnal doniau ymchwil ac arloesi yn y DU:
- Meithrin llwybrau gyrfa ymchwil ac arloesi newydd gan gynnwys y rhai hynny sydd ar y ffiniau rhwng y byd academaidd/byd busnes a'r ffiniau rhyngddisgyblaethol, a hwyluso cyfleoedd i bobl symud rhwng sectorau
- Darparu cyllid ac adnoddau parhaus ar gyfer yr ymchwilwyr gyrfa gynnar a’r arloeswyr gorau
- Darparu cyllid hirdymor a hyblyg i fynd i'r afael â heriau anodd a newydd, a chefnogi rhaglenni anturus ac uchelgeisiol.
Beth mae'r Gymrodoriaeth yn ei gynnig
Buddsoddiad i gefnogi cymrodorion dros bedair blynedd, a'r gallu i estyn hynny hyd at saith mlynedd, a fydd yn galluogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arloeswyr i elwa o gymorth rhagorol i feithrin eu gyrfaoedd a gweithio ar heriau anodd a newydd.
Mae cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol eisoes wedi ariannu cymrodoriaethau gwerth rhwng £300,000 a thros £2 filiwn, er nad oes terfynau isaf nac uchaf ac nid yw'n rhoi blaenoriaeth i geisiadau ar sail cost isel na chost uchel. Mae’r cyllid a gynigir yn hirdymor ac yn hyblyg, gyda saith mlynedd o gymorth ar gael ar fodel 4 (+3).
Mae UKRI yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o lwybrau gyrfa amrywiol, gan gynnwys y rhai sy'n dychwelyd ar ôl seibiant gyrfa neu'n dilyn amser mewn rolau eraill. Mae UKRI hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i ymgeiswyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt i ddatblygu eu cais, os cânt eu dewis gan y sefydliad lletyol i gyflwyno cais.
Rydym yn croesawu’n arbennig ddatganiadau o ddiddordeb gan ymchwilwyr sy’n gweithio ar hyn o bryd o fewn sectorau eraill sy’n edrych i bontio i’r byd academaidd.
Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cymorth ychwanegol sylweddol i gefnogi ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys
- Pecyn cymorth pwrpasol wedi'i deilwra i chi a'ch prosiect,
- Mentora a chymorth gan y Gyfadran a'r Gwasanaethau Proffesiynol, e.e. cymorth i ysgrifennu cais trwy gydol y broses gyfan o lunio eich cynnig
- Llwybr gyrfa i swydd barhaol fel Uwch-ddarlithydd ar ddiwedd y Gymrodoriaeth, ynghyd â
- Mentora a datblygu gyrfa parhaus drwy gydol eich cymrodoriaeth
Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth a gymeradwywyd gan yr adran letyol a rhaid iddynt ddangos tystiolaeth o hyn mewn datganiad cefnogi cymrodoriaeth fel rhan o'r ffurflen gais Mynegiant o Ddiddordeb.
Cymhwysedd:
Mae'r cymrodoriaethau hyn ar gyfer academyddion gyrfa gynnar ac arloeswyr sy'n pontio i fod yn annibynnol neu'n sefydlu hynny. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r Fanyleb Person yn y canllawiau i'r alwad - Atodiad A - i asesu a chyfiawnhau eu haddasrwydd am y cynllun gan gyfeirio at amcanion y rhaglen.
Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar ddoethuriaeth erbyn dyddiad dechrau'r gymrodoriaeth NEU allu dangos profiad cyfwerth o ymchwil/arloesi a/neu hyfforddiant. Nid oes rheolau cymhwysedd sy'n seiliedig ar flynyddoedd ers ennill PhD, neu a yw'r ymgeisydd yn meddu ar swydd neu rôl academaidd barhaol/benagored ar hyn o bryd. Serch hynny, dylai ymgeiswyr sydd â swydd barhaol:
- Ddangos nad yw eu swydd bresennol yn dangos eu bod wedi cyflawni annibyniaeth mewn ymchwil/arloesi ac arweinyddiaeth feddwl
- Rhoi rhesymeg eglur pam byddai Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yn wahanol i'w rôl bresennol.
- Datgan yn eglur y byddai eu holl amser gwaith sydd wedi’i gynnwys yng nghyllideb y Gymrodoriaeth yn cael ei glustnodi ar gyfer y Gymrodoriaeth honno er mwyn canolbwyntio ar ymchwil/arloesi, a'i warchod rhag ymrwymiadau proffesiynol eraill.
- Dangos mai Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol fyddai'r ffordd orau o ategu eu nodau gyrfa hirdymor a'r llwybr gyrfa o'u dewis. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys am gymrodoriaeth os byddant eisoes wedi cyflawni annibyniaeth ymchwil/arloesi (er enghraifft, drwy sicrhau cyllid ar gyfer y cam gyrfa hwn).
Ni chaniateir ceisiadau gan uwch-academyddion nac uwch-arloeswyr.
Pam dewis Prifysgol Abertawe?
Yn asesiad diweddaraf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn ymchwil sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol - i fyny o 80% yn yr ymarfer REF blaenorol yn 2014.Gellir dod o hyd i uchafbwyntiau ymchwil Prifysgol Abertawe yma.
Rydyn ni'n parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ledled y byd. Mae 86% o'n hymchwil, a ddyfarnwyd gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.
Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn ardderchog yn rhyngwladol (sef cynnydd o 6% ers ymarfer REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu bod Prifysgol Abertawe'n amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil fel myfyriwr neu academydd, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ar draws y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n gwella amrywiaeth ac yn galluogi holl gymuned y Brifysgol i gyflawni ei photensial. Adlewyrchir hyn wrth i'r Brifysgol dderbyn nifer o siarteri sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, gan gynnwys dyfarniad Arian Athena SWAN ar lefel y Brifysgol (rhywedd) a safle ymysg y 50 prifysgol orau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Felly, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd, beth bynnag ei hil, ei ryw, ei rywioldeb neu ei allu, yn cael cymorth llawn drwy gydol y broses ymgeisio.
Ac fel y nodir uchod, bydd Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol sylweddol i ymgeiswyr llwyddiannus.
Sut i gyflwyno cais:
Bellach, croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sydd am gael eu cefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hyn yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Dylai unigolion gysylltu â'r fellowships@abertawe.ac.uk i ddechrau er mwyn sicrhau bod eu hymchwil yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ac uchelgeisiau ymchwil y Gyfadran- Archwilio ein hymchwil yma. Defnyddir proses ddethol dryloyw a chynhwysol i sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n dewis yr ymgeiswyr gorau i'w cefnogi hyd at y cam cais llawn. Bydd hyn yn cynnwys panel adolygu mewnol yn craffu ar fynegiant o ddiddordeb drafft, CV ac allbynnau pob ymgeisydd.
Cais
E-bostiwch bob mynegiant o ddiddordeb i fellowships@abertawe.ac.uk
Bydd Prifysgol Abertawe yn cefnogi tri chais i'w cyflwyno'n llawn a bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn derbyn cymorth pwrpasol i baratoi eu cynnig llawn. Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth wedi'i chymeradwyo gan y Gyfadran letyol.
AMSERLEN AR GYFER MYNEGIANNAU O DDIDDORDEB (ROWND 9)
- Dyddiad Cau i Ymgeiswyr Fynegi Diddordeb :29 Ionawr 2024 10am
- Dyddiad cau UKRI ar gyfer cyflwyno ceisiadau llawn: I'w gadarnhau, disgwylir Mai/ Mehefin 2024
Amlinellir yr amserlen ddrafft fanwl isod; gall hyn newid.
Gweithgaredd |
Dyddiad
| Cyfrifol |
Galwad ar agor i ymgeiswyr, ffurflen Mynegi Diddordeb Prifysgol Abertawe ar gael |
Yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Rhagfyr 2023 |
Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi |
Gweminar gwybodaeth gychwynnol trwy Zoom |
18 Ionawr 2024, 13:00
|
Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi |
Cymorth i ymgeiswyr |
Yn cael ei drefnu yn ôl y galw |
Gall ymgeiswyr ofyn am gymorth drwy REIS a Swyddogion Datblygu Ymchwil |
Dyddiad Cau i Ymgeiswyr Fynegi Diddordeb |
Dydd Llun 29 Ionawr 2024 10:00 |
Ymgeisydd |
TFS yn agor ar gyfer cynigion llawn
|
I'w gadarnhau, disgwylir Chwefror 2024 |
UKRI |
Y Gyfadran yn adolygu Mynegiannau o Ddiddordeb ac yn cyflwyno ymgeiswyr enwebedig i Banel Adolygu FLF Prifysgol Abertawe – uchafswm o 3 ymgeisydd fesul Cyfadran
|
30 Ionawr 2024 |
Deoniaid Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi Cyfadrannau |
Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o ganlyniad y cam mynegiant o ddiddordeb ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno i'r panel (hyd at 9)
|
2 Chwefror 2024 |
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi |
Cyflwyno gerbron y panel (Panel Adolygu FLF Prifysgol Abertawe) |
Dydd Iau 8 Chwefror 2024
|
Ymgeiswyr Mynegiant o Ddiddordeb a gefnogir
|
Rhoir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad cam y Panel (Uchafswm o 3)
|
12 Chwefror 2024 |
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi |
3 ymgeisydd yn symud ymlaen i'r Cais Llawn |
|
Ymgeisydd gyda chymorth y Swyddog Datblygu Ymchwil, yr Ysgrifennwr Cynigion a'r tîm ehangach |
Adolygu'r cynnig gan gymheiriaid a gwella ei ansawdd, cadarnhau cefnogaeth y sefydliad lle cynhelir y prosiect ar gyfer y 3 ymgeisydd a gefnogir |
|
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi a’r Gyfadran lle cynhelir y prosiect |
Adolygiad technegol ac ariannol Prifysgol Abertawe |
I’w gadarnhau |
Swyddog Datblygu Ymchwil |
Cymeradwyaeth Prifysgol Abertawe i gyflwyno cais (dyddiad cau mewnol)
|
I’w gadarnhau |
Swyddog Datblygu Ymchwil |
Cyflwyno'r ddogfen i UKRI erbyn y dyddiad cau |
I'w gadarnhau, disgwylir Mai/ Mehefin 2024 |
Ymgeisydd/Ymgeiswyr a gefnogir |
Asesu'r cais, llunio rhestr fer yn unol â Phroses UKRI |
I’w gadarnhau |
UKRI |
Cyfweliadau |
I’w gadarnhau |
Ymgeiswyr ar y rhestr fer |
Rhoir gwybod i ymgeiswyr am y canlyniad |
I’w gadarnhau |
UKRI |
Y dyddiad cau i dderbyn cynnig |
I’w gadarnhau |
Ymgeiswyr Llwyddiannus |
Dechrau'r prosiect |
Rhwng dau a chwe mis ar ôl dyddiad y cyfarfodydd cyfweld |
Ymgeiswyr Llwyddiannus |