Mae'n fraint cyhoeddi isod (yn nhrefn yr wyddor) y ceisiadau sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe.
Gan adeiladu ar lwyddiant Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'r llynedd, mae'r diddordeb a'r ymateb eleni wedi bod yn aruthrol, a derbyniwyd 100 o geisiadau - y nifer mwyaf erioed - o bob rhan o'n cymuned ymchwil.
Roedd llunio’r rhestr fer ar gyfer ceisiadau’r wobr a dewis enillwyr ar draws pob categori yn heriol eithriadol oherwydd safon uchel y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r rhain wedi’u hadolygu a’u sgorio gan banel o gyfoedion Prifysgol Abertawe a noddwyr gwerthfawr. Diolch o galon i bawb a gyfranogodd a llongyfarchiadau i’r holl geisiadau a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Cyhoeddir yr enillwyr ddydd Gwener, 21 Mehefin 2024 mewn seremoni yn y Neuadd Fawr.