EICH 10 NIWRNOD O DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL
Mae'r Concordat yn cynnwys cyfeiriadau at ddarparu cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i ymchwilwyr allu wneud isafswm o 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn. Fel sefydliad sydd wedi llofnodi’r Concordat, mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gefnogi gyrfaoedd staff ymchwil, gan gydnabod pwysigrwydd datblygiad proffesiynol:
Mae’n rhaid i’n sefydliad ddarparu cyfleoedd, cymorth ac amser i ymchwilwyr wneud lleiafswm o 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn.
Mae’n rhaid i’n cyrff cyllido ymgorffori gofynion datblygiad proffesiynol penodol mewn galwadau am gyllid, amodau a thelerau, adroddiadau grantiau ac mewn polisïau lle bo’n berthnasol. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad ymchwilwyr i wneud o leiaf 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata bob flwyddyn.
Rhaid i reolwyr ein hymchwilwyr ddyrannu o leiaf 10 niwrnod pro rata, bob blwyddyn, i'w hymchwilwyr allu ymgymryd â datblygiad proffesiynol, gan gefnogi ymchwilwyr i gydbwyso'r gwaith o gyflawni eu hymchwil a'u datblygiad proffesiynol eu hunain.
Rhaid i'n hymchwilwyr gymryd perchnogaeth o'u gyrfaoedd, gan nodi cyfleoedd i weithio tuag at nodau gyrfa, gan gynnwys ymgymryd ag o leiaf 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata bob blwyddyn.
Dysgwch fwy am y Concordat