Datblygu eich Sgiliau
Yn Abertawe, rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau
Mae Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddi (GDH) yn cynnig cyrsiau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn â'r nod o gefnogi a gwella sgiliau proffesiynol.Gellir cael gwybodaeth am gyrsiau yma, ac mae hysbysiadau e-bost rheolaidd ar draws y campws hefyd i'ch diweddaru chi.
Mae digwyddiadau'n cynnwys meysydd sgiliau cyffredinol, megis effeithiolrwydd personol, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, a rheoli timoedd, yn ogystal â hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gwaith megis cymorth cyntaf, ysgrifennu adroddiadau a recriwtio a dethol.
Mae Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu (REIS) yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i helpu i sicrhau bod eich ceisiadau cyllid neu grant wedi'u strwythuro cyn i chi eu cyflwyno i i uwchafu eich siawns o lwyddo.
Mae GDH yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant ledled y campws, Gwasanaethau Digidol, Cynaliadwyedd a'r Swyddfa Ddiogelwch i greu adnodd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol neilltuol i atgyfnerthu'ch dyheadau ymchwil a gyrfa.Mae Abertawe'n brifysgol flaengar ac uchelgeisiol, gyda gwir ddiddordeb mewn datblygu'ch dawn.
Mae'n holl gyrsiau hyfforddi wedi'u mapio yn erbyn Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF). Mae'r RDF yn cynnwys 4 maes neu "barth" dysgu a amlinellir isod. Mae gan wefan Vitae ragor o wybodaeth am y RDF. Os hoffech gyngor ar sut y mae cwrs penodol yn mapio i'r RDF, cysylltwch â ni.