Darlithydd Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe yw Dr Jing Shao. Mae hi'n arbenigo mewn Economeg Lafur ac Economeg Iechyd, yn benodol micro-economeg empirig ac econometreg gymhwysol, gan roi pwyslais penodol ar economeg ynni, economeg iechyd ac economeg llafur.
Beth yw'ch maes ymchwil?
Mae fy niddordeb ymchwil ym meysydd micro-economeg empirig ac econometreg gymhwysol, gan roi pwyslais penodol ar economeg ynni, economeg iechyd ac economeg llafur.
Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb mewn gwerthuso effeithiolrwydd polisïau mewn meysydd megis cyfranogiad menywod yn y gweithlu a gweithgareddau gwaith menywod, neu effeithiolrwydd y polisïau sy’n cael eu rhoi ar waith mewn marchnadoedd iechyd ac ynni.
Yn fwy diweddar, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar bolisïau ynni adnewyddadwy yn y farchnad ynni ac rwyf wedi bod yn ymchwilio i'r ffactorau hynny sy'n effeithio ar brisiau trydan ac effaith polisïau adnewyddadwy ar effeithlonrwydd y farchnad.
Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Roeddwn i bob amser am weithio ar broblemau byd go iawn â goblygiadau go iawn i gymdeithas. Mae newid o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy'n enghraifft o hyn ac mae'n hanfodol wrth helpu i gyflawni economi carbon isel, er nad yw'r llwybr hwn yn syml gan fod technolegau adnewyddadwy'n ddrutach, ac mae rhai ohonyn nhw'n anaeddfed. Felly, mae polisïau llywodraethau'n bwysig er mwyn llywio ymddygiad y farchnad a newid dewisiadau buddsoddi.
Fodd bynnag, mae newidiadau i bolisi'n gwneud i fuddsoddwyr deimlo'n ansicr ac amau effeithlonrwydd y polisi. Er enghraifft, mae cymorthdaliadau tuag at osod paneli solar mewn cartrefi wedi annog buddsoddiad yn bennaf o ganlyniad i'r enillion mawr, ond mae'r cymorthdaliadau wedi lleihau'n sylweddol ers i'r polisi gael ei roi ar waith yn y lle cyntaf, gan beri pryder i ddefnyddwyr ynghylch mabwysiadu'r dechnoleg newydd. A minnau’n economegydd, gall fy arbenigedd mewn dadansoddi economaidd gynnig dealltwriaeth er mwyn dehongli polisïau ynni o'r fath.
Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?
Ymunais i â Phrifysgol Abertawe yn 2016 fel cynorthwy-ydd ymchwil yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, a roddodd gyfle i mi fagu fy sgiliau ymchwil a chael profiad ymchwil amhrisiadwy. Yn dilyn hynny, ymunais i â'r Adran Economeg fel darlithydd gan fy mod i hefyd am ddatblygu fy sgiliau addysgu, ynghyd â rhyngweithio'n fwy cyson â myfyrwyr. Rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl anhygoel ym Mhrifysgol Abertawe ac rwyf wedi mwynhau fy amser yma'n fawr iawn.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Rwy'n gobeithio y gall fy ymchwil helpu rhagor o bobl i ddeall sut mae polisïau ynni'n dylanwadu ar eu bywyd pob dydd a sut gall ynni adnewyddadwy wella cymdeithas. Rwyf hefyd yn gobeithio, wrth i mi barhau i ehangu fy mhortffolio o brosiectau ymchwil, y galla i weithredu fel pont sy'n cysylltu'r diwydiant ynni â'r sector cyhoeddus. Byddai creu effaith a chyfrannu at lunio polisïau cadarn er mwyn gwella effeithlonrwydd yn y farchnad ynni'n nod allweddol.
Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?
Tri tharged polisïau ynni yw datgarboneiddio, fforddiadwyedd a diogelwch ynni, ond mae'n eithriadol o anodd cyflawni'r tri nod hyn ar yr un pryd. Er enghraifft, mae'r cynnydd o ran prisiau nwy naturiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos nad oes gan y DU gronfa ddigonol wrth gefn i ddiogelu ei dinasyddion rhag prisiau rhyngwladol anwadal, er bod y DU wedi cael llwyddiant mawr wrth ddatgarboneiddio. Mae fy ymchwil i’r farchnad garbon a phrisiau manwerthu trydan yn awgrymu y dylid ailystyried y blaenoriaethau o bryd i'w gilydd, er mwyn mwyafu lles cymdeithasol yn y pen draw.
Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?
Bydda i'n parhau i ymchwilio i economeg ynni, yn enwedig fforddiadwyedd ynni. Yn wir, rwyf newydd gwblhau gwaith dadansoddi ar gynllun cymorth diweddar y llywodraeth tuag at ynni adnewyddadwy, Contractau ar gyfer Gwahaniaeth, yn y sector trydan.
Mae'r cynnydd o ran prisiau ynni dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi rhoi llawer o aelwydydd mewn sefyllfa ariannol beryglus, a hoffwn i ymchwilio i'r polisïau posib a all helpu rhagor o bobl i elwa o ddefnyddio ynni glân a fforddiadwy. Y gred yw bod ynni gwynt, sydd wedi lleihau costau cynhyrchu'n llwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn elfen allweddol wrth ateb y cwestiwn hwn.