Mae Dr Jun Yang yn Darlithydd Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Saesneg-Tsieinëeg. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyfieithu cydweithredol ar-lein sy'n cynnwys cyfieithu torfol a chyfieithu gan gefnogwyr.

Beth yw'ch maes ymchwil?

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gyfieithu cydweithredol ar-lein sy'n cynnwys cyfieithu torfol a chyfieithu gan gefnogwyr. Rwy'n defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol sy'n fy ngalluogi i archwilio'r ffenomen o ddimensiynau amrywiol – yr adeiladu cymunedol, y prosesau, ac ansawdd cyfieithu yn y cyd-destunau hyn.

Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn addysgeg cyfieithu a thechnoleg cyfieithu. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect sydd â'r nod o feithrin cymhwysedd diwygio myfyrwyr cyfieithu.  Bydd yr astudiaeth beilot hon yn cael ei hehangu i faes golygu testun ar ôl ei gyfieithu’n beirianyddol.

Dr Jun Yang

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Dechreuais ymddiddori mewn ieithoedd a chyfathrebu traws-ddiwylliannol yn ystod fy astudiaethau israddedig, pan ddes i ar draws cymuned amatur ar-lein o'r enw Yeeyan. Cefais fy swyno gan yr ystod eang o destunau y mae'r gymuned wedi bod yn eu cyfieithu a'u lledaenu. Mae'n cyfieithu cydweithredol ar-lein wedi dod yn ffenomen amlwg yn hytrach na chyfieithu proffesiynol. Mae ymchwil i'r pwnc hwn yn arwyddocaol wrth ganolbwyntio ar astudiaethau cyfieithu cyfredol o sawl safbwynt gwahanol a chyfoethogi'r maes fel ei fod yn cael sylw mwy cyffredinol.

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Gwnes i fy ngradd Meistr a fy PhD ym Mhrifysgol Leeds, lle tyfodd fy nghariad at gyfieithu.  Gweithiais fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Normal De Tsieina ar ôl cyflawni fy PhD. Ymunais â Phrifysgol Abertawe yn ystod haf 2020, gan obeithio datblygu prosiectau ymchwil cryf a fyddai'n cael effaith eang.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Yn aml mae cyfieithu cydweithredol ar-lein yn cael ei feirniadu am fod o ansawdd isel neu honnir ei fod yn camfanteisio ar weithwyr . Rwy'n gobeithio datblygu llythrennedd ym maes cyfieithu cydweithredol ar-lein a dod o hyd i ffyrdd o ymgorffori'n well y dull o gynhyrchu cyfieithiadau mewn modd moesegol ac effeithlon.

Gan fod datblygiad deallusrwydd artiffisial yn anochel ac yn treiddio i bob agwedd ar gynhyrchu cynnwys, mae wedi dylanwadu'n sylweddol ar faes cyfieithu.  Ar gyfer fy ymchwil i ddiwygio ac ôl-olygu, rwy'n gobeithio y bydd deall sut mae dysgwyr yn meithrin cymhwysedd diwygio yn taflu goleuni ar hyfforddiant cyfieithwyr yn oes deallusrwydd artiffisial.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Mae fy ymchwil i gyfieithu cydweithredol ar-lein yn cynnig awgrymiadau sydd wedi'u llywio'n empirig ar sut i hyrwyddo adeiladu cymunedol a sut i wella'r ffordd y caiff ei drefnu a'i ddefnyddio.   Mae'r prosiect arall ar ddiwygio ac ôl-olygu yn helpu dysgwyr i feithrin y cymwyseddau a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn addasu i chwyldro'r diwydiant.  Nod y ddau linyn ymchwil yw optimeiddio'r dulliau gweithredu presennol wrth gynhyrchu cyfieithiadau y gellir eu defnyddio'n well i ddiwallu'r angen cynyddol am gyfieithu. 

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig? 

Rwy'n bwriadu estyn fy ngwaith ymchwil ar gyfieithu cydweithredol ar-lein i faes  cyfieithu clyweledol, a fydd yn pwysleisio'r technolegau a ddefnyddir wrth gynhyrchu a chylchredeg, a chyfieithu fel dull cyfathrebu sy'n diwallu anghenion hygyrchedd, prydlondeb a hyd yn oed adloniant. 

Er mwyn datblygu’r ymchwil i ddiwygio ac ôl-olygu cyfieithiadau, y cam nesaf fydd arbrofi ar raddfa fawr gan roi sylw i ddylanwad dulliau hyfforddi, dosbarthiad sylw'r dysgwyr ac  amrywiannau eu perfformiad.

Darganfod mwy am Dr Jun Yang