Mae Dr Menna Brown yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn archwilio rôl lles emosiynol wrth bennu canlyniadau iechyd corfforol mewn cyd-destun iechyd digidol. Mae hi hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar brosiect sy'n archwilio rôl a swyddogaeth rhagnodi cymdeithasol a gwyrdd yng Nghymru.
Beth yw'ch maes ymchwil?
Ariennir fy mhrosiect ymchwil presennol gan yr ECRN, a nod y prosiect yw cwestiynu a beirniadu'r cysyniad o ragnodi cymdeithasol.
Nod y prosiect yw dod â rhanddeiliaid perthnasol ynghyd i drafod rôl rhagnodi cymdeithasol yn y DU yn gyffredinol ac yng Nghymru ac Abertawe'n benodol.
Nod yr astudiaeth yw cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth mewn cyfres o drafodaethau i ystyried cryfderau a chyfyngiadau modelau rhagnodi cymdeithasol presennol.
Rhagnodi cymdeithasol a rhagnodi gwyrdd yw fy meysydd ymchwil gan eu bod yn perthyn i iechyd meddwl ac ymddygiad iechyd sy'n ymwneud â ffordd o fyw. Gwnaeth fy ymchwil ar gyfer fy PhD archwilio rôl lles wrth gefnogi cyfranogiad parhaol ar gyfer newid i ffordd o fyw cadarnhaol mewn cyd-destun iechyd digidol ac mae rhagnodi cymdeithasol yn adeiladu ar y maes diddordeb hwn wrth i ddatblygiad cynaliadwy ddod yn bwnc cynyddol bwysig yn ein bywydau.
Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Gwnes i astudio seicoleg fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Surrey, felly bu ymddygiad a newid ymddygiad bob amser o ddiddordeb i mi. Gwnaeth y ffocws a'r diddordeb mewn iechyd ac ymddygiad iechyd ddatblygu yn ystod fy rhaglen ôl-raddedig MSc yn UWE a'i atgyfnerthu pan gefais y cyfle i weithio ar astudiaeth ymchwil ansoddol ar gyfer fy nhraethawd estynedig. Defnyddiodd y prosiect fethodoleg grŵp ffocws i archwilio cleifion gyda chlefyd bitẅidol, agweddau, credoau, profiadau a chymhellion o ran eu salwch a'r byd cymdeithasol. Roedd hi'n ddiddorol gweithio gyda chyfranogwyr a dysgu am eu profiadau gan fy ysgogi i archwilio hyn ymhellach.
Yn ogystal â hyn yn fy rhaglen BSc, daeth siaradwr allanol i siarad â'n dosbarth am benderfynyddion ehangach iechyd gan ysgogi chwilfrydedd ynof i archwilio ffactorau anfeddygol eraill sy'n cael effaith ar statws iechyd a ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n parhau i fod gen i heddiw. Gallaf ddiolch i PHE am eu darlith llawn ysbrydoliaeth.
Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?
Yn 2007, ar ôl cwblhau fy MSc mewn Seicoleg Iechyd yn UWE, cyflwynais gais am swydd cynorthwy-ydd ymchwil yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe ar brosiect a oedd yn ymchwilio effaith cyfarwyddeb amser gweithio ar feddygon iau. Cefais y cyfle drwy fy MSc i hwyluso prosiect ymchwil ansoddol a oedd yn archwilio effaith seico-gymdeithasol clefyd bitẅidol a wnaeth fy mharatoi ar gyfer y swydd. Gwnaeth y swydd bara am flwyddyn a hanner, a gwnes i fwynhau'r profiad yn fawr o gael dysgu am gylch ymchwil o feddwl am brosiect i'w ledaenu. Gwnaeth hyn fy ysbrydoli i gyflwyno cais am ail un ac yna drydedd swydd cynorthwy-ydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Nod fy mhrosiect presennol wrth archwilio rhagnodi cymdeithasol yw cyflawni sawl peth, er mwyn ennyn trafodaeth am gysyniad rhagnodi cymdeithasol fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd yn y DU. Fel gwasanaeth, mae wedi cael ei ddarparu ymhell cyn ffurfioli rhagnodi cymdeithasol ym model meddygaeth gymunedol. Yn ail i nodi meysydd arfer gorau o safbwynt darparwyr y gwasanaeth a defnyddwyr y gwasanaeth i gefnogi Spas y mae'n parhau i'w datblygu a'u hehangu. Er enghraifft drwy ragnodi gwyrdd (rhagnodi ar sail natur) a glas (ar sail dŵr). Y nod terfynol yw datblygu sylfaen i adeiladu gwaith pellach yn y maes hwn arno a chynnal gwerthusiad o'r gwasanaeth gan weithio gyda sefydliadau lleol sy'n darparu cyfleoedd rhagnodi cymdeithasol i unigolion â phryderon iechyd meddwl isel i wella eu hiechyd a'u lles ac i ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth.
Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?
Mae rhagnodi cymdeithasol fel cysyniad wedi dod yn rhan o system y GIG, mae meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn cael eu hannog i ragnodi a chyfeirio cleifion at ragnodwyr cymdeithasol lleol sy'n cefnogi unigolion drwy roi'r cyfle i drafod eu materion iechyd a lles anfeddygol ond hefyd gyfeirio at sefydliadau trydydd sector presennol sy'n cynnig cyfleoedd gwirfoddol i gefnogi pobl mewn angen.
Bydd gwerthuso a thrafod modelau presennol sydd ar waith yn lleol o fudd i sefydliadau sydd yn rhan o gyflwyno'r gwasanaethau hyn, gan amlygu arfer gorau a meysydd i'w gwella a chan roi cyfle i gymryd rhan a chyd-greu drwy gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth. Yn y bôn, ceisio cryfhau systemau sydd ar waith er budd pawb.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Cyflwyno cais am fwy o gyllid i gynnal gwerthusiad ar raddfa fawr o enghraifft o astudiaeth achos sy'n darparu rhagnodi cymdeithasol yn lleol. Nodi mydryddiaeth effeithiol ar gyfer gwerthuso rhagnodi cymdeithasol sy'n gweithio i bawb dan sylw. Ychwanegu at y trafodaethau a'r wybodaeth sy'n dod i'r amlwg yn y maes hwn.