Beth yw eich maes ymchwil?
Microfioleg a bioleg foleciwlaidd. Yn fwy penodol, rwy'n ymchwilio i haint ar yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig (CF).
Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Roeddwn wrth fy modd yn edrych trwy figrosgopau pan oeddwn yn blentyn, gan ddarganfod bydoedd cudd. Mae diddordeb cryf wedi bod gen i mewn clefydau a'u datblygiad ers tro byd. Rwy'n credu fy mod eisiau dysgu am eu cyfrinachau!
Roedd fy noethuriaeth yn archwilio microbiom yr ysgfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig yn ystod haint cronig ar yr ysgyfaint, a dyma sut gwnes i ddechrau gweithio yn y maes hwn.
Beth oedd eich rhesymau dros ddod i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Gwelais yr hysbyseb swydd ac roedd gen i ddiddordeb yn y prosiect. Mae'r prosiect yn archwilio defnyddio mêl manwca fel triniaeth bosib ar gyfer haint rheolaidd ar yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig. Mae'r swydd hon yn datblygu'r sgiliau rwy'n meddu arnynt eisoes ac hefyd yn fy ngalluogi i feithrin sgiliau newydd.
Hefyd, mae'r campws gyferbyn â'r traeth.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Gobeithio y bydd yn cyflawni datblygiad triniaeth sy'n seiliedig ar fêl manwca ar gyfer haint rheolaidd ar yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig, sy'n helpu i leihau pa mor aml mae'r haint yn dychwelyd. Os defnyddir mêl manwca ochr yn ochr â gwrthfiotigau, mae'n bosib y gallai'r manwca leihau'r angen am wrthfiotigau, a fydd yn ei dro yn lleihau baich ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd a fydd yn y bôn yn arwain at ansawdd bywyd gwell i bobl sydd â ffeibrosis systig.
Pa fath o ddefnydd ymarferol gall eich ymchwil ei gyflawni?
Gallai fy ymchwil arwain at opsiynau therapiwtig newydd a naturiol i reoli heintiau rheolaidd ar yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffeibrosis systig. Pan ddefnyddir mêl manwca ochr yn ochr â gwrthfiotigau, efallai gallai'r mêl leihau'r lefel o wrthfiotigau sydd ei hangen, gan leihau sgil- effeithiau a helpu i fynd i'r afael ag ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd. Gall y dull hwn fod o fudd i bobl sydd â ffeibrosis systig drwy leihau pa mor aml mae'r haint yn dychwelyd, gwella iechyd yr ysgyfaint a gwella ansawdd bywyd. Mae hefyd gan yr ymchwil oblygiadau ehangach i drin heintiau cronig eraill ar yr ysgyfaint, gan gynnig, o bosib, opsiwn amgen effeithiol a mwy diogel o’i gymharu â thriniaethau confensiynol gwrthfiotig dwys.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Rydym yn gobeithio datblygu'r astudiaeth bresennol i archwilio pathogenau gwahanol ac yna datblygu'r astudiaeth ymhellach er mwyn creu a datblygu dyfais y gellir ei defnyddio.
Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ymchwilio i heintiau ar y cyd rhwng pathogenau gwahanol er mwyn gweld a oes unrhyw gysylltiadau diddorol yn digwydd.
Hanes Gyrfa
Cyn i mi ddod i Abertawe, gwnes i fy PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.