Deall sut y gallai'r drefn y byddwch chi'n cael clefydau effeithio ar eich disgwyliad oes

Gallai'r drefn y byddwch yn cael clefydau effeithio ar eich disgwyliad oes

Gallai'r drefn y byddwch yn cael clefydau effeithio ar eich disgwyliad oes

Yr Her

Wrth i boblogaethau'r byd fyw'n hirach, mae pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor amryfal (a adwaenir hefyd fel cydafiechedd) yn bryder iechyd mawr ledled y byd.   Yn y DU, mae gan dros 25% o oedolion ddau neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae hyn yn cynyddu i 65% ymhlith pobl sy'n hŷn na 65 oed, a bron 82% ar gyfer y rhai hynny sy'n 85 oed neu'n hŷn. Yn aml bydd y rhai hynny sy'n byw gyda sawl cyflwr hirdymor yn defnyddio mwy o’r gwasanaethau gofal iechyd a meddyginiaethau, bydd ganddynt fwy o broblemau wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd a bydd eu hansawdd bywyd a hyd eu hoes yn is. 

Y Dull

Gwnaeth yr astudiaeth hon a arweiniwyd gan yr Athro Rhiannon Owen ac a ariannwyd gan Ymchwil Data Iechyd y DU, asesu sut y mae seicosis, diabetes a methiant y galon yn datblygu dros amser, a'r effaith y gall hyn ei chael ar ddisgwyliad oes. Cafodd cyfleoedd ar gyfer atal ac ymyrraeth wedi'i thargedu i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda nifer o gyflyrau hirdymor eu nodi hefyd. 

Mae ymchwil yr Athro Owen yn canolbwyntio ar ddatblygu a defnyddio dulliau ystadegol newydd i fynd i'r afael â chwestiynau pwysig a chymhleth. Gwnaeth yr astudiaeth hon ddefnyddio modelau ystadegol i archwilio trefn datblygu seicosis, diabetes a methiant y galon, yr effaith gysylltiedig ar ddisgwyliad oes, a ffactorau sy'n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefydau eraill a disgwyliad oes byrrach.  

Gwnaeth yr astudiaeth hon ddefnyddio data ym manc data SAIL, sy'n darparu mynediad diogel at gofnodion iechyd a gweinyddol a gesglir yn rheoliadd ar gyfer poblogaeth Cymru.  Cafodd dros 1.6 miliwn o oedolion rhwng 25 oed neu'n hŷn eu cynnwys yn yr ymchwil i ddadansoddi datblygiad y cyflyrau hyn dros gyfnod o 20 mlynedd. 

Gwnaeth cleifion ac aelodau'r cyhoedd  ledled y DU rannu eu profiad o fyw gyda nifer o gyflyrau hirdymor i lywio ymhellach waith dylunio’r ymchwil a'i chanfyddiadau. 

Yr Effaith

Canfu'r astudiaeth fod y drefn y gwnaeth pobl ddatblygu'r cyflyrau hirdymor amryfal hyn yn cael effaith bwysig a chymhleth ar eu disgwyliad oes.

Gwelwyd y gostyngiad mwyaf o ran disgwyliad oes mewn pobl a ddatblygodd ddiabetes, seicosis a methiant y galon yn y drefn honno (oddeutu 13 blynedd ar gyfartaledd). Gwelwyd disgwyliad oes uwch mewn pobl a ddatblygodd yr un cyflyrau mewn trefn wahanol.

Roedd gan bobl a ddatblygodd ddiabetes, ac yna seicosis ac wedyn methiant y galon yn y drefn honno, risg uwch o ddatblygu'r cyflwr iechyd hirdymor nesaf o fewn pum mlynedd o'u diagnosis diwethaf.

Fodd bynnag, nid yw datblygiad cyflyrau pellach bob amser yn cyfyngu ar fywyd. Er enghraifft, roedd gan bobl a gafodd ddiagnosis o seicosis a diabetes (mewn unrhyw drefn) ddisgwyliad oes uwch o'u cymharu â'r rhai hynny a gafodd ddiagnosis o seicosis yn unig. Gallai hyn fod oherwydd bod gan bobl â diabetes fwy o gyswllt rheolaidd â'r gwasanaeth iechyd drwy glinigau diabetes, er enghraifft, a allai wella eu hiechyd yn gyffredinol.

Dyma'r astudiaeth gyntaf i archwilio sut y mae trefn ac amseru datblygu cyflyrau hirdymor amryfal yn effeithio ar ddisgwyliad oes unigolyn.  Gellid defnyddio'r ymchwil hon i hysbysu cleifion, darparwyr gofal iechyd a'r rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch ffactorau a allai gynyddu risg unigolyn o ddatblygu clefyd, yn ogystal â nodi cyfleoedd posib ar gyfer sgrinio clefydau ac ymyrraeth gynharach i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor amryfal a'r GIG. 

Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.