Mamwlad: Yn wreiddiol o'r Ynysoedd Philippines, ond yn lleol o Fanceinion, Lloegr.

Teitl y cwrs: PhD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd drwy Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe. Prosiect: Ymchwilio i rôl lipidau plasmalogen yn ymennydd pysgod rhesog gan lipidomeg ryngddisgyblaethol.

Ym mha Gyfadran rydych chi'n astudio?
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Gwnaeth Prifysgol Abertawe argraff arna i oherwydd ei phwyslais cryf ar ymchwil feddygol ryngddisgyblaethol a'i henw rhagorol mewn lipidomeg a niwrowyddoniaeth.

Mae fy mrwdfrydedd am ddarganfod ym maes gwyddor feddygol, yn enwedig o ran deall clefydau cymhleth fel clefyd Alzheimer ac anhwylderau dadfyelineiddio, yn cydweddu'n berffaith â'r cyfleoedd i wneud ymchwil flaengar yn Abertawe. Mae'r cyfle i weithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol, fel fy ymchwil PhD i lipidau plasmalogen yn ymennydd y pysgodyn rhesog, wedi bod yn amhrisiadwy wrth gyfuno fy niddordebau mewn niwrowyddoniaeth a gwyddoniaeth ddadansoddol.

Ar wahân i'r ochr academaidd, gwnaeth diwylliant chwaraeon bywiog a chymuned gynhwysol Abertawe ddylanwadu’n sylweddol ar fy mhenderfyniad. Gan fy mod i'n chwaraewr tennis bwrdd brwdfrydig, mae'r cyfle i gynrychioli'r brifysgol a chyfrannu at ei chlwb tennis bwrdd ffyniannus wedi rhoi boddhad mawr. Mae Abertawe wedi darparu'r cydbwysedd perffaith rhwng safonau academaidd uchel a rhagoriaeth athletaidd, gan fy ngalluogi i ymroi i'r ddau faes sy'n tanio fy niddordeb a thyfu fel ymchwilydd ac athletwr.

Beth yw eich maes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn archwilio sut mae lipidau plasmalogen yn cyfrannu at iechyd yr ymennydd, gan ganolbwyntio ar eu rôl mewn ffurfio myelin, ei gynnal a'i ddirywiad. Mae plasmalogenau yn lipidau hanfodol ar gyfer gweithrediad synaptig a myelin, ac awgrymir cysylltiad rhwng eu colled a chlefydau niwroddirywiol megis clefyd Alzheimer a chyflyrau dadfyelineiddio fel sglerosis ymledol.

Gan ddefnyddio'r pysgodyn rhesog fel organeb fodel, fy nod yw astudio newidiadau mewn lefelau a chyfansoddiad plasmalogenau drwy gydol datblygiad ac mewn modelau clefyd. Mae hyn yn cynnwys proffilio lipidomig a microsgopeg gydffocal i nodi cysylltiadau rhwng newidiadau mewn lipidau a chyfanrwydd synaptig. Drwy gyfuno niwrowyddoniaeth foleciwlaidd â gwyddoniaeth ddadansoddol, gobeithio darganfod strategaethau therapiwtig posib, megis atchwanegiadau plasmalogen, i fynd i'r afael â dadfyelineiddio a niwroddirywio.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Dechreuais i ymddiddori yn y maes hwn yn ystod fy astudiaethau israddedig, pan gynhaliais i adolygiad systematig o genynnau am risg o glefyd Alzheimer, gan ddatgelu rôl actifadu microgliaidd a llwybrau amgen mewn cynnydd clefyd. Gwnaeth hyn fy ysbrydoli i archwilio ymagweddau arloesol at ymchwil i niwroddirywio.

Yn nhraethawd hir fy ngradd Meistr, datblygais i lyfrgell genetig ar gyfer modelu clefydau dynol mewn pysgod abwyd gwyrddlas Affricanaidd. Gwnaeth y profiad hwn gryfhau fy niddordeb mewn defnyddio organebau model i astudio cyflyrau dynol a'm cyflwyno i lipidomeg fel arf pwerus i ddatgelu mecanweithiau clefydau. Gwnaeth y prosiectau hyn osod sylfeini ymchwil fy ngradd PhD i lipidau plasmalogen mewn pysgod rhesog, gan gyfuno fy niddordebau mewn gwyddoniaeth ddadansoddol a niwrowyddoniaeth i oresgyn heriau enbyd mewn dadfyelineiddio a niwroddirywio.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddatgelu rôl hollbwysig lipidau plasmalogen mewn datblygu a chynnal myelin gan ddefnyddio pysgod rhesog fel organeb fodel. Mae plasmalogenau'n hanfodol i'r ymennydd weithredu'n iach, ac mae eu colli wedi cael ei gysylltu â chlefydau dadfyelineiddio. Drwy astudio sut mae plasmalogenau'n dylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd a'u buddion therapiwtig posib, fy nod yw canfod strategaethau arloesol i ymladd clefydau niwroddirywiol.

Drwy ymagwedd ryngddisgyblaethol sy'n cyfuno lipidomeg sylfaenol â chymwysiadau trosiadol, nod fy ngwaith yw paratoi'r ffordd ar gyfer ymyriadau cost-effeithiol sy'n arafu neu'n atal cynnydd clefydau. Y tu hwnt i gyfrannu at ddarganfod gwyddonol, gobeithio bydd fy ymchwil yn ysbrydoli eraill i feddwl yn greadigol ac yn gydweithredol wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwroddirywiol.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol, gan gynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf fel yr uned pysgod rhesog a'r labordai sbectrometreg màs. Mae fy ngoruchwyliwr, Dr Roberto Angelini, wedi bod yn allweddol wrth lywio fy nhaith ymchwil, gan ddarparu arbenigedd amhrisiadwy mewn lipidomeg a niwrofioleg a meithrin meddylfryd annibynnol a chreadigrwydd.

Mae awyrgylch cydweithredol a chefnogol y brifysgol wedi cyfoethogi fy mhrofiad ymhellach. Mae cyfleoedd rheolaidd i gyflwyno fy ymchwil mewn cynadleddau ac ymgysylltu â'r  gymuned wyddonol ehangach wedi bod yn allweddol wrth fireinio fy syniadau ac ehangu fy ngorwelion. Mae'r cyfuniad hwn o fentora rhagorol, adnoddau uwch a chydweithio academaidd wedi bod yn hollbwysig i'm datblygiad fel ymchwilydd, gan fy ngrymuso i fynd ar drywydd ymagweddau arloesol yn fy ngwaith.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Fy ngobaith yw parhau i ymchwilio i lipidau a niwroddirywio, gan ganolbwyntio ar droi darganfyddiadau gwyddonol yn gymwysiadau therapiwtig ar gyfer cyflyrau fel clefyd Azheimer a sglerosis ymledol. Gan adeiladu ar waith fy PhD, fy nod yw datblygu modelau sy'n seiliedig ar bysgod rhesog i nodi ymyriadau newydd mewn cysylltiad â lipidau a pharatoi'r ffordd ar gyfer triniaethau arloesol.

Y tu hwnt i ymchwil, dwi'n bwriadu parhau i chwarae tennis bwrdd yn gystadleuol, mae’n weithgaredd sydd wedi datblygu gwydnwch, disgyblaeth ac awydd am ragoriaeth ynof fi. Y nod yn y pen draw yw rhagori fel gwyddonydd ac athletwr, gan gyfrannu at ddatblygiadau ym maes ymchwil i glefydau niwroddirywiol wrth ysbrydoli eraill i fynd ar drywydd eu nodau â'r un ymroddiad.