Gwlad frodorol: Cymru
Teitl y cwrs: Doethuriaeth mewn Nyrsio

Ym mha Gyfadran rydych chi'n astudio?
Rwy'n astudio Nyrsio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dechreuais fy ngyrfa yn yr uned gofal dwys lle roeddwn i'n gweithio am dair blynedd a hanner ac yn ystod pandemig y coronafeirws. Roeddwn i'n wynebu heriau sylweddol gan fy mod yn nyrs hollol fyddar yn y ddwy glust ac mae gen i fewnblaniadau yn y cochlea. Cwblheais hefyd radd meistr ran-amser am dair blynedd mewn 'Addysg i'r Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol' yn ystod fy nghyfnod fel nyrs ICU.

Gwnaeth yr uchod a chymorth Julia Terry gyfraniad hollbwysig at fy helpu i ennill Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) – rwy’n ddiolchgar iawn am dderbyn yr ysgoloriaeth hon i gefnogi fy PhD.

Beth yw eich maes ymchwil?
Dwi’n ymchwilio i brofiadau nyrsys byddar yn y Deyrnas Unedig. Does dim digon o ymchwil wedi cael ei gwneud yn y maes hwn, ac mae bylchau yn ein dealltwriaeth o brofiadau presennol nyrsys o ymarfer clinigol. Yn 2024, dangosodd ystadegau fod 18 miliwn o oedolion yn y DU yn fyddar neu’n drwm eu clyw, felly mae hwn yn anabledd cyffredin a all effeithio ar unrhyw un (RNID, 2024).

Yn ôl llenyddiaeth, gall nyrsys byddar adael oherwydd diffyg cymorth, bwlio a phryderon am ofal cleifion (Johnson, 2019; Durosaiye et al., 2016). Mae'r ymchwil hon yn ystyried mesurau i atal nyrsys profiadol rhag gadael oherwydd colli clyw sy'n ymwneud ag oedran, ac yn archwilio mesurau i gefnogi’r rhai sy’n colli clyw wrth weithio yn y proffesiwn neu sy’n fyddar cyn dechrau ynddo; cadw a recriwtio nyrsys.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Fel nyrs fyddar, doedd dim llawer o wybodaeth gen i am y cymorth y gallai fod ar gael yn ystod fy ymarfer clinigol, felly oherwydd fy mhrofiadau personol gwnes i ymchwilio i'r heriau sy'n wynebu nyrsys byddar.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy’n gobeithio rhoi arweiniad ar y cymorth sydd ar gael i nyrsys byddar, gan ddylanwadu ar bolisïau yn Llywodraeth Cymru, cynnwys ymwybyddiaeth o fod yn fyddar mewn hyfforddiant gorfodol, a gwella dealltwriaeth mewn sefydliadau addysgol. Y nod yn y pen draw yw cyfrannu at gadw a recriwtio nyrsys drwy fesurau cymorth  effeithiol.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae'r cymorth gan y Gyfadran a’r arweiniad amhrisiadwy gan oruchwylwyr fy ymchwil wedi hwyluso fy ymagwedd effeithiol at ymchwil. Hoffwn i ddiolch i Julia Terry, Ed Lord a Menna Brown am eu harweiniad gwerthfawr drwy gydol fy PhD.

Mae cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau rhyngwladol, diolch i gymorth gan Brifysgol Abertawe a Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, wedi fy ngalluogi i rwydweithio a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Er nad ydw i wedi diffinio fy nodau ôl-PhD eto, rwy'n agored i wahanol gyfleoedd, gan gynnwys ymchwil bellach, gwaith gyda'r llywodraeth, addysgu, ymgynghori a rolau cynghori - rwy'n llawn cyffro am y llwybrau gyrfa amrywiol y gallai fy ymchwil eu hwyluso.