Gyda dyfodol ein planed yn gynyddol ansicr a sôn cyson yn y newyddion am faterion megis microblastigion, llygredd aer ac ynni adnewyddadwy, mae ar nifer o’n myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt i hynny. Un ffordd o wneud hyn yw cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. 

Mae llawer o brosiectau a gynhelir gan staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant y nodau. Dysgwch fwy am sut rydym yn helpu trwy glicio ar y dolenni isod bob nod.

Safleoedd Effaith Times Higher Education - 2024

Asesodd y tabl rhyngwladol mawreddog fwy na 1,400 o brifysgolion yn rhyngwladol ar draws ehangder gweithgarwch prifysgolion o stiwardiaeth ymchwil, addysgu, metrigau cynaliadwyedd, polisïau, allgymorth a gwaith partneriaeth a’i nod yw dal effaith prifysgolion ar gymdeithas. 2024 yw'r drydedd flwyddyn i Abertawe gael ei hasesu ac mae’r Brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda, gan ei gosod yn y 100 uchaf yn gyffredinol (65ain) ac o fewn yr 50 uchaf ar gyfer pum Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) gan ddangos ein hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy.

Cawsom ein hasesu yn erbyn 6 o'r 17 nod datblygu cynaliadwy. Gwnaethom gyflawni'r canlyniadau canlynol.

  • Safle Cyffredinol y Byd yn safle 65

NDC 3: Iechyd a llesiant da: 40ain
NDC 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy: 49ain
NDC 12: Treuliant a chynhyrchu cyfrifol: 9fed
NDC 15: Bywyd ar y tir: 19eg
NDC 16: Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn: 26ain
NDC 17: Gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r nodau: 101-200fed

Mae creu cymdeithas iachach a mwy cynaliadwy, yn lleol ac yn fyd-eang, wrth wraidd pwrpas Prifysgol Abertawe ac mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r gwaith caled ar draws holl feysydd y Brifysgol.

PRIFSYSGOL ABERTAWE NODAU DATBLYGU CYNALIADWY ADRODDIAD 2021/22

Swansea University Sustainable Development Goals Report