Yn y bennod hon
Yn y bennod hon, mae Dr. Luca Trenta yn trafod defnydd gwladwriaethau o weithredu cudd, gyda ffocws ar ymwneud Llywodraeth yr UD â llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth. GGan rychwantu'r cyfnod o'r Rhyfel Oer hyd at y cyfnod cyfoes, mae Dr Trenta yn archwilio dimensiynau cywrain y gweithrediadau cudd hyn ac yn herio'r canfyddiad cyffredin o lofruddiaeth fel rhywbeth unigryw i gyfundrefnau awdurdodaidd.
Mae ymchwil Dr Luca Trenta yn canolbwyntio ar ddau brif faes: cyfrinachedd y wladwriaeth a llofruddiadau a noddir gan y wladwriaeth. Mae'r ymchwil ddamcaniaethol hon yn dibynnu'n helaeth ar hanes a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'n gwerthuso hyd a lled cyfranogiad mewn llofruddiadau a noddir gan y wladwriaeth UDA a'r ffordd y cafodd y rhain eu trafod, eu penderfynu a'u cyfiawnhau dros y 70 mlynedd diwethaf.
Drwy gyfuno ymchwil archifol a chyfweliadau elît, mae'r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar weithredoedd cuddiedig a gynhaliwyd yn bennaf gan Lywodraeth yr UD. Diffinnir y rhain fel gweithredoedd a gynhaliwyd gan asiantaethau’r llywodraeth (neu ddirprwyon) i ddylanwadu ar amodau tramor mewn modd nad yw'n briodol i'r llywodraeth noddi. Y nod yw cynnal credadwyedd wrth wadu. Mae llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth yn ffurf eithafol o weithrediadau cudd. Mae ymchwil Dr Trenta'n canolbwyntio ar dargedu swyddogion neu gynrychiolwyr llywodraethau tramor.
Yn dilyn llwybr o gliwiau a gwadiadau, mae'r gwaith ymchwil hwn yn taflu goleuni ar y berthynas gymhleth rhwng y weithrediaeth, canghennau deddfwriaethol, y cyfryngau a'r cyhoedd. Drwy ymchwilio i’r set unigryw o symudiadau ieithyddol a ddefnyddir gan Lywodraeth yr UD i gyfiawnhau ei gweithredoedd, mae'n datgelu sut - er gwaethaf gorchymyn gweithredol sy'n gwahardd yr ymarfer – mae Llywodraeth yr UD wedi parhau i ddibynnu ar lofruddiadau fel rhan o arfau ei pholisi tramor cuddiedig.
Mae Dr Trenta'n herio'r canfyddiad cyffredin o lofruddiad fel rhywbeth sy'n unigryw i gyfundrefnau awdurdodaidd, ac o ganlyniad mae'n pwysleisio gweithredoedd hanesyddol Llywodraeth UDA, gan geisio herio'r farn gyffredin sef bodolaeth 'trefn ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau'.