Yn y bennod hon

Mae Efelychu a Dysgu Ymdrochol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgol gwahanol i ennyn diddordeb dysgwyr drwy atgynhyrchu amgylcheddau gofal iechyd go iawn. Gallai hyn gynnwys hyfforddi actorion i ddynwared cleifion ac aelodau teulu neu ddefnyddio modelau technoleg uchel sy'n gweithredu fel cleifion go iawn ac yn galluogi myfyrwyr i gyflawni tasgau mewn amser real, megis rhoi diferwr mewnwythiennol neu gyffuriau. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn defnyddio waliau ymdrochol sy'n newid i atgynhyrchu'r amgylcheddau gofal iechyd amrywiol megis ystafelloedd cleifion, cartrefi neu theatrau llawdriniaethau, gan alluogi'r gyfadran i hyfforddi timau gyda'i gilydd ac ymarfer mewn amgylchedd diogel. Mae tîm Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe hefyd yn ymchwilio i brosiectau realiti rhithwir fel rhan o'r rhaglen hon.

Ar adeg pan fo mwy o alwadau nag erioed ar arbenigwyr gofal iechyd, mae Joanne yn trafod sut mae Prifysgol Abertawe'n arloesi hyfforddiant sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn darparu gofal diogel o safon uchel i gleifion, teuluoedd a'r gymuned.

Am ein harbenigwr

Mae Joanne Davies yn Athro Cysylltiol ac yn Gyfarwyddwr Addysg Efelychu'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Dechreuodd Jo yn ei swydd ym mis Gorffennaf 2021. Gwnaeth ddylunio a sefydlu cyfleusterau efelychu a rhaglenni Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM) ac mae'n cadeirio'r gweithgor efelychu rhyngbroffesiynol. Cyfarwyddodd yr Athro Jo agoriad y Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol ar brif gampws Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2023. Mae'r ganolfan hon yn gartref i'r cyfleuster mwyaf o ran technoleg waliau ymdrochol yn y byd. Ym mis Mawrth 2024, agorodd tîm SUSIM fannau ymdrochol ychwanegol ar gampws Prifysgol Abertawe yng ngorllewin Cymru, gan alluogi addysg efelychu, partneriaethau, ymgysylltu, datblygu busnesau ac arloesi aml-ddull i gael eu hehangu. Mae hefyd yn cydweithredu â Deoniaid Efelychu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ogystal ag ar brosiectau busnesau bach a chanolig cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn flaenorol, gwnaeth Jo gyd-ddylunio, cyfarwyddo a chomisiynu Canolfan Efelychu Meddygol Sidra a rhaglenni yn Doha, Qatar, ac arwain tîm ar waith, gan helpu i agor ysbyty menywod a phlant â 450 o welyau a oedd yn defnyddio system efelychu i gynnal profion. Gwnaeth Jo gyd-sefydlu Consortiwm Efelychu Qatar a Rhaglen y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA), yn ogystal ag astudio gyda thîm y Ganolfan Efelychu Meddygol (CMS) ym Mhrifysgol Harvard i ddod yn addysgwr gofal iechyd efelychu ardystiedig. Mae Jo hefyd wedi gweithio ar brosiectau efelychu ar gyfer gwasanaeth iechyd Queensland yn Awstralia, yn ogystal â phrosiectau ysbytai ac addysg ychwanegol yn y Dwyrain Canol ac Affrica.

Mae Jo wedi bod yn fydwraig gofrestredig ers 1994 wrth iddi astudio ym Mhrifysgol Keele, ac mae wedi gweithio mewn rolau clinigol, addysg ac uwch-arweinyddiaeth yn y DU, y Dwyrain Canol ac Awstralia, gan ennyn ei diddordeb mewn defnyddio technegau efelychu a dysgu ymdrochol a helpu i wella systemau ansawdd ym maes gofal iechyd. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Efelychu Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.