Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am bobl a chymdeithas. Mae'n gyfle i bawb archwilio'r gwyddorau cymdeithasol, o iechyd, maeth a lles i seicoleg, chwaraeon ac ymarfer corff, trosedd, cydraddoldeb, technoleg, addysg a hunaniaeth, drwy ddigwyddiadau a gynhelir gan ymchwilwyr o brifysgolion y DU.

Cynhelir Gŵyl 2024 rhwng 19 Hydref 2024 a 9 Tachwedd 2024 gyda channoedd o ddigwyddiadau'n cael eu darparu gan 41 o brifysgolion. Thema ein Gŵyl eleni yw 'Ein Bywydau Digidol', gydag amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cynnwys pynciau gwyddorau cymdeithasol eraill.

Bydd digwyddiadau'n cynnwys sioeau byw, cwisiau, arddangosiadau, teithiau cerdded tywysedig, digwyddiadau cyfranogol a gweithdai hwylus. Mae rhestr pob digwyddiad yn cynnwys y dyddiad, yr amser a'r lleoliad (wyneb yn wyneb neu ar-lein).

Cynhelir gweithgareddau Prifysgol Abertawe o 27 Hydref, yn ystod hanner tymor mis Hydref tan 5 Tachwedd, mewn amryfal leoliadau yn cynnwys Theatr y Grand Abertawe, Oriel Science (Stryd y Castell), Amgueddfa Freud Llundain, Canolfan Dreftadaeth Gŵyr, a Noah's Yard (Uplands). Bydd gweithgareddau galw heibio drwy gydol yr wythnos, yn ogystal â gweithdai gyda lleoedd y gallwch eu harchebu.

Mae'r holl ddigwyddiadau am ddim ac mae croeso i bawb (mae rhestrau digwyddiadau'n cynnwys cyngor ar gyfyngiadau oedran ar gyfer rhai digwyddiadau).Gall tocynnau i'r digwyddiadau gael eu harchebu drwy’r ddolen i wefan yr ŵyl.

Caiff yr ŵyl ei harwain a'i hariannu gan y  Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n cefnogi ymchwil a hyfforddiant ym mhynciau'r gwyddorau cymdeithasol.

Gweithgareddau sydd ar ddod

Gwyliau'r gorffennol

We were pleased to be joined by Bangor and Cardiff Universities to host the ESRC's offering a pan-Wales day of fun, informal and interactive events on wellbeing as part of the 2023 Festival of Social Science.

Cynhaliodd Prifysgol Abertawe weithgareddau a gweithdai gan ymchwilwyr ar draws y tair Prifysgol, yn dilyn themâu gan gynnwys iechyd meddwl, newid ymddygiadol, deallusrwydd artiffisial, dementia, cadwraeth amgylcheddol, argyfwng hinsawdd, rhyw a hunaniaeth ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Gweld ein Gŵyl 2023 yma!

ESRC Festival of Social Science
ESRC Logo