MAE ANGEN BARN PWYLLGOR MOESEG FFAFRIOL AR UNRHYW YMCHWIL AR GYFRANOGWYR DYNOL
Os oes angen i'ch prosiect gael adolygiad moesegol gan un o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil y GIG, yn unol â rheoliadau Adrannau Iechyd y DU, dylech gyflwyno cais ar-lein drwy'r System Cymeradwyo Ymchwil Integredig (IRAS). Mae hyn yn cynnwys gofynion cyfreithiol i adolygu yn unol â deddfwriaeth y DU. Yn achos prosiectau myfyrwyr PhD, dim ond y Prif Ymchwilydd, sef y goruchwyliwr academaidd, sy'n cael cyflwyno cais.
Y Prif Ymchwilydd yw'r unigolyn sy'n gyfrifol am bob agwedd ar gynnal y prosiect yn y DU, rhywun sydd â'r gallu i oruchwylio'r ymchwil yn effeithiol ac sydd ar gael i gyfathrebu â'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil a chyrff adolygu eraill yn ystod y broses ymgeisio a thra bydd yr ymchwil ar waith os oes angen.
Bydd angen nawdd sefydliadol Prifysgol Abertawe ar brosiectau ymchwil ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n dod o fewn cylch gorchwyl Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Tachwedd 2017). Fel arfer, y Noddwr yw cyflogwr y Prif Ymchwilydd ac mae'n derbyn cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod trefniadau cyfreithiol, yswiriant, rheoleiddio a diogelu ar waith i sefydlu, cynnal ac adrodd ar brosiect ymchwil.
Y Deon Arweinyddiaeth Academaidd ar gyfer Uniondeb a Moeseg Ymchwil yw'r unigolyn sydd ag awdurdod i lofnodi a gweithredu ar ran y Brifysgol mewn perthynas â nawdd sefydliadol Prifysgol Abertawe a materion llywodraethu.
Mae system ar-lein yr IRAS hefyd yn ffordd o sicrhau caniatâd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) a llwybrau Galluedd a Gallu Ymchwil a Datblygu'r GIG sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau ymchwil mewn perthynas â'r GIG neu ofal cymdeithasol.
P'un a ydych yn dilyn llwybr Cymeradwyaeth yr HRA neu’n mynd drwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil yn unig, rhaid dilyn y camau canlynol:
- Cwblhau ffurflen gais ymchwil ar y System Ceisiadau Ymchwil Integredig (IRAS)
- Paratoi eich dogfennau astudio
- Cyflwyno eich cais drwy'r Gwasanaeth Cyflwyno Canolog
- Cyflwyno eich ceisiadau'n electronig i'r IRAS
IRAS (System Ceisiadau Ymchwil Integredig)
Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau deunydd e-ddysgu cyflym yr IRAS a fydd yn helpu i sicrhau bod eich cais yn cael ei dderbyn drwy Nawdd, Pwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG, yr HRA, llwybr Galluedd a Gallu'r GIG ac wrth ymdrin ag unrhyw newidiadau a rheoli cais y prosiect ar-lein. Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â'r canlynol:
- System,
- Awdurdodiad,
- Cyflwyno,
- Rheoli fersiynau dogfen,
- Newidiadau a
- Chymeradwyaeth
- Cymorth a Chwestiynau Cyffredin
Oes angen cymeradwyaeth gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG arnaf?
Bydd offeryn penderfynu'r HRA yn eich helpu i benderfynu a oes angen cymeradwyaeth gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG ar eich astudiaeth.
Llwybrau Cynllunio a Chymeradwyaeth
Mae canllawiau defnyddiol ar gael ar y gwefannau canlynol:
- healthandcareresearch.gov.wales/research-route-map/
- hra.nhs.uk/planning-and-improving-research
- hra.nhs.uk/approvals-amendments/
Trefnu adolygiad gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG
Pan fydd nawdd Prifysgol Abertawe wedi'i awdurdodi mewn egwyddor, y cam nesaf yw cysylltu â'r CBS (Gwasanaeth Cyflwyno Canolog) i drefnu i’ch astudiaeth gael ei hystyried gan gyfarfod un o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil y GIG. Os byddwch yn newid rhywbeth ar ôl i nawdd gael ei awdurdodi, bydd y cais yn annilys a bydd angen i chi gyflwyno cais am nawdd eto. Felly, mae'n well gofyn am awdurdodiad ar ôl rheoli fersiynau’r ddogfennaeth a phan fyddwch yn barod i gyflwyno i gyfarfod pwyllgor moeseg y GIG. Ni fydd llofnodion cydweithredwyr yn gwneud y cais yn annilys.