Ymchwil Anifeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo a gweithredu’n helaeth strategaeth o leihau, mireinio a disodli’r defnydd o anifeiliaid mewn ymchwil, ac mae wedi llofnodi'r Concordat ar Onestrwydd ynghylch Ymchwil Anifeiliaid.
Er mwyn gwneud gwaith ymchwil o safon, mae angen defnyddio anifeiliaid weithiau. Ymgymerir â'n hymchwil sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn unol â'r safonau uchaf o ofal anifeiliaid ac fe'i cynhelir pan na cheir dewis ymarferol arall yn unig.
Ym Mhrifysgol Abertawe, gwneir rhywfaint o waith ymchwil sy'n ymwneud ag anifeiliaid ym meysydd lles anifeiliaid, ymddygiad a gwybyddiaeth, ecoleg a chadwraeth, imiwnoleg a niwrowyddoniaeth.
Mae Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 (ASPA) yn llywodraethu ac yn rheoleiddio'r gwaith y mae ein gwyddonwyr yn ymgymryd ag ef. Mae ASPA yn rheoleiddio triniaethau a ddefnyddir ar ‘anifeiliaid a warchodir’ at ddibenion gwyddonol a all achosi poen, dioddefaint, gofid neu niwed parhaol. Y diffiniad o ‘anifeiliaid a warchodir’ yw pob anifail asgwrn cefn byw, heblaw am bobl, gan gynnwys mathau anaeddfed penodol ac unrhyw geffalopod byw.
Mae polisi swyddogol Prifysgol Abertawe ar ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil ar gael yma