Ein Hymrwymiad
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i greu diwylliant o arfer da mewn ymchwil ac i gynnal y safonau uchaf o ran trylwyredd ac uniondeb ym mhob agwedd ar ymchwil. Mae darparu amgylchedd cefnogol ar gyfer ymchwilwyr, un sydd wedi'i danategu gan systemau llywodraethu ymchwil da, yn un o flaenoriaethau allweddol cynllun strategol Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol. Darperir arweinyddiaeth yn y maes gan yr Uwch-ddirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Datblygu Strategol, y Deon Academaidd ar gyfer Uniondeb Ymchwil a thîm o staff yn y gwasanaethau proffesiynol. Darperir cymorth i ymchwilwyr drwy hyfforddiant ac arweiniad a drefnir gan y Colegau a'r Unedau Gwasanaeth Proffesiynol yn y Brifysgol.
Mae dogfen y Brifysgol, Uniondeb Ymchwil: Fframwaith Polisi ar Foeseg a Llywodraethu Ymchwil yn amlinellu ymagwedd y sefydliad tuag at uniondeb ymchwil ac yn darparu'r polisïau sylfaenol ar lywodraethu ymchwil. Datblygwyd y Fframwaith Polisi yn unol â'r canllawiau yn y dogfennau canlynol: Y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, Côd Ymarfer Swyddfa Ymchwil ac Uniondeb y DU a Fframwaith Polisi’r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.