Academi Arloesi

Mae'r Academi Arloesi'n darparu sylfaen addysgu, dysgu ac ymchwil o safon fyd-eang sy'n rhoi'r hyder, y sgiliau a'r gallu i arweinwyr arloesi mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill TGCh, Peirianneg, Dyframaeth, Amddiffyn, Seiberddiogelwch ac Iechyd a Gofal.

Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IHSC) yn rhan o'r Academi Arloesi. Mae Academi IHSC yn rhoi i arweinwyr yr hyder, y sgiliau a'r gallu i arloesi ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.

EISIAU DATBLYGU EICH GWEITHLU?

Mae ein rhaglenni’n cwmpasu ystod o sectorau ac yn cynnig opsiynau astudio rhan-amser dwy flynedd hyblyg, sy’n cynnwys prosiect sy’n seiliedig ar gleientiaid, ac yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a ddatblygwyd gan arbenigwyr ac ymarferwyr o sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat.

Mae datblygu eich gweithlu'n dangos ymrwymiad i dwf eich cyflogeion a llwyddiant eich busnes. Mae cyflogeion sydd â sgiliau a gwybodaeth uwch yn cyfrannu'n fwy effeithiol at amcanion sefydliadau, gan feithrin arloesedd a chynhyrchiant, sydd oll yn rhoi mantais gystadleuol i chi a'ch tîm.

Ydych chi'n barod i rymuso eich gweithlu? Cysylltwch â’n tîm heddiw: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

Triple Accreditation Logos - CMI, FMLM & CPD

EIN CYRSIAU

Darganfyddwch ein rhaglenni MSc Rheoli Uwch deinamig a'n graddau hyblyg ac arloesol sy'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu. Wedi’u harwain gan arbenigwyr ac ymarferwyr yn y sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol.

ACADEMI DYSGU DWYS - ARLOESI YM MAES IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Cefnogir Academi Dysgu Dwys Cymru ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IHSC) gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei sefydlu i ddatblygu a chefnogi arloesedd, o raddfeydd cynyddol i raddfeydd trawsnewidiol, ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector drwy ymagwedd ddysgu ac ymarfer sy'n seiliedig ar ofal, gan dynnu ar weithgareddau rheng flaen grwpiau megis Arweinwyr Arloesi'r GIG drwy wybodaeth ac arbenigedd rhyngwladol partneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol.

Mae'r Academi'n cynnig fframwaith unigryw o gyfleoedd dysgu a gyflwynir mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chomisiwn Bevan.

Academiau Dysgu Dwys Cymru
Blwyddlyfr MSc AHCM 2024 Cymraeg