Ysgrifennwyd Y Blog Gan: Kristina Dziekan
Gan Kristina Dziekan, Pennaeth Mynediad at Farchnadoedd ym Masnachfraint Lawfeddygol Alcon Europe ac arweinydd ymgysylltu Alcon â phlatfform gofal iechyd Fforwm Economaidd y Byd
Mae pandemig Covid-19 wedi tanlinellu'r angen brys i systemau iechyd a gofal weithredu mwy ar sail gwerthoedd. Mae miliynau o bobl yn gorfod aros am driniaeth roedd ei hangen arnynt oherwydd y penderfyniad i roi blaenoriaeth isel i ofal nad yw'n frys pan oedd y pandemig ar ei anterth. Ar yr un pryd, mae'r gwariant cynyddol ar fesurau yn erbyn Covid-19 wedi rhoi rhagor o bwysau ar gyllidebau. Mae'n bwysicach nag erioed bod systemau iechyd a gofal yn osgoi gwastraffu adnoddau ar ymyriadau diangen neu nad ydynt yn werthfawr iawn.
Mae ymagwedd ar sail gwerth yn cynnig i systemau iechyd fodel o gyflawni canlyniadau o safon yn gost-effeithiol, gan arwain at gynnydd mewn gofal cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar unigolion.
Ym mis Mawrth 2021, er mwyn cynyddu iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth yn fyd-eang, sefydlodd Fforwm Economaidd y Byd (WEF) y Glymblaid Fyd-eang dros Werth mewn Gofal Iechyd a lansiodd rwydwaith o Hybiau Arloesi i arddangos ymagweddau arfer gorau.
Roedd GIG Cymru yn un o'r sefydliadau a ddewiswyd i ymuno â'r pedwar hyb cychwynnol. Aeth pob sefydliad drwy'r broses ymgeisio - a gynhaliwyd gan y WEF a'r Boston Consulting Group (BCG) - er mwyn asesu ei barodrwydd am Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar sail meini prawf wyth pwynt. Cyfwelwyd â llawer o randdeiliaid, gan gynnwys yr Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn darparu tystiolaeth i ategu ceisiadau. Nododd y Panel Gymru fel enghraifft oleudy o sut gall systemau iechyd symud tuag at iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth yn genedlaethol.
Mae'r gymuned o hybiau'n gweithredu fel platfform cydweithredu i gyflymu'r broses o drawsnewid systemau iechyd ledled y byd i fod yn seiliedig ar werth, drwy nodi cynlluniau peilot parodrwydd ar sail tystiolaeth er mwyn profi cysyniad modelau gofal iechyd ar sail gwerth. Mae dolen i ymagwedd a phecyn offer y WEF ar gael yma.
Mae pob hyb wedi cytuno i gynlluniau gweithredu dwy flynedd i gynyddu ei arbenigedd a gweithio ar feysydd datblygu. Gyda'i gilydd, mae'r hybiau'n ymrwymedig i greu effaith drwy:
- Gyflymu'r broses o roi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar waith drwy rannu dysgu
Mewn sesiynau dysgu rhwng cymheiriaid, mae hybiau'n rhannu eu profiad mewn meysydd hollbwysig ar gyfer rhoi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys mesur gwerth, meincnodi, dadansoddi'r gwersi a ddysgir, integreiddio atebion digidol, gwybodeg a modelau talu.
Mae gan GIG Cymru brofiad aruthrol o fesur canlyniadau a adroddir gan gleifion drwy lwybrau clinigol cyfan a sut i ddefnyddio'r gwersi i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion. Bydd y gwersi hyn yn helpu hybiau eraill i gyflymu eu teithiau gweithredu.
- Cefnogi llunwyr polisi i drawsnewid systemau iechyd.
Bydd yr hybiau a phartneriaid eraill y WEF yn canolbwyntio ar ymgysylltu â llunwyr polisi a'u cefnogi i drawsnewid systemau iechyd a gofal fel eu bod yn seiliedig ar werth. Mae rhai o'r heriau mwyaf sy'n gysylltiedig â rhoi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar waith yn cynnwys alinio cymhellion ariannol o ran gwerth sy'n cynnig buddion i ddarparwyr a thalwyr ac annog timau gofal i weithredu ymagwedd sy'n seiliedig yn gyfan gwbl ar werth. Mae llunwyr polisi'n ganolog i wneud hyn yn orchmynnol a chreu'r amodau sy'n dod â’r elfennau hyn ynghyd.
- Ysbrydoli eraill drwy arfer gorau
Bydd y WEF hefyd yn casglu ynghyd arferion gorau sy'n dangos sut mae'r hybiau wedi llwyddo i roi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar waith a'u rhannu drwy ei sianeli cyfathrebu, blogiau, cyhoeddiadau a digwyddiadau. Gyda thros 27m o ddilynwyr mae sianel cyfryngau cymdeithasol y WEF yn hynod effeithiol. Mae ei rwydweithiau partneriaeth yn hynod effeithiol hefyd: denodd y sesiwn Tŷ Agored cyntaf a gynhaliwyd ar-lein ym mis Medi 2021 i gyflwyno'r hybiau dros 130 o gyfranogwyr o'r holl grwpiau rhanddeiliaid sy'n angenrheidiol i roi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar waith yn llwyddiannus - llunwyr polisi, talwyr, darparwyr, systemau iechyd, academyddion, diwydiant, platfformau digidol.
Mae'r WEF yn gobeithio tyfu ei hyb Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ac mae'n annog ceisiadau gan ragor o sefydliadau sy'n rhoi'r cysyniad ar waith ac yn ei gyflymu. Rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyflwyno cais yma.
Aelodau Hyb Arloesi Byd-eang y WEF ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd
GIG Cymru: Yn 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fel ffordd o roi egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus ar waith a chreu Cymru fwy iach ar gyfer ei thri miliwn o ddinasyddion. Ers rhoi'r strategaeth ar waith, mae canlyniadau wedi gwella'n sylweddol ar gyfer nifer o glefydau cronig ac ysbeidiol drwy fesur a dylunio gwasanaethau ar sail y canlyniadau sy'n bwysicaf i bobl a chreu model gweithredu safonol i wella profiad cleifion, safon gofal a chanlyniadau.
Diabeter: Un o ganolfannau diabetes arbenigol mwyaf Ewrop a sefydlwyd i ddarparu gofal cynhwysfawr, wedi'i bersonoli, i blant ac oedolion â diabetes math 1. Gan gynnig gofal a mynediad at wasanaethau 24 awr o'r dydd i dros 3,000 o gleifion, mae Diabeter yn darparu gofal diabetes yn unol â model ar sail gwerth drwy ei bum clinig yn yr Iseldiroedd.
Menter Iechyd Clwstwr Cataractau Portiwgal (HCP): Partneriaeth rhwng 13 canolfan offthalmoleg breifat a chyhoeddus er mwyn rhoi model sy'n seiliedig ar werth ar waith i ddarparu gofal cataractau. Mae HCP yn newid y paradeim er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i dros 11,400 o gleifion â chataractau hyd yn hyn, ac mae 89% ohonynt wedi nodi gwelliant sylweddol yn eu gweithgareddau beunyddiol ar ôl triniaeth.
Canolfan Diabetes Steno Copenhagen - SDCC: Fel yr ysbyty cyntaf yn Nenmarc i arbenigo mewn diabetes, mae SDCC wedi cynhyrchu canlyniadau sydd wedi gwella'r prognosis ar gyfer gofal diabetes, gan ddatblygu triniaeth integredig newydd, dulliau atal ac addysg a fydd o fudd i bobl â diabetes yn Nenmarc a'r tu hwnt. Mae menter SDCC wedi nodi effaith sylweddol o ran gostyngiad mewn cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes, megis gostyngiad i bron sero mewn dallineb a thrychiadau coes o ganlyniad i ddiabetes.
Fideo: Y Glymblaid Fyd-eang dros Werth mewn Gofal Iechyd
Mae'r cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ac mae'n gywir hyd eithaf gwybodaeth yr awdur adeg ysgrifennu. Eiddo'r awdur yw pob barn, ac nid yw Alcon o angenrheidrwydd yn cytuno.
Ysgrifennwyd y Blog gan: Kristina Dziekan, Pennaeth Mynediad at Farchnadoedd ym Masnachfraint Lawfeddygol Alcon Europe ac arweinydd ymgysylltu Alcon â phlatfform gofal iechyd Fforwm Economaidd y Byd
Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2021