Gan Alex Markovits, myfyrwr sy’n cwblhau lleoliad yn yr Ysgol Reolaeth
Shwmae bawb!
Gobeithio eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn iach.
Rwyf yn fyfyriwr Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn rhan o’m Blwyddyn mewn Diwydiant, rwyf yn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod o chwe mis gyda’r timau Cyllid, Marchnata, a Chynllunio a Gweithrediadau yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuais yn yr ysgol ym mis Ionawr a byddaf yn gorffen ym mis Gorffennaf. Rwyf wedi cael profiad helaeth ac amrywiol wrth weithio yn yr Ysgol. Rwyf yn treulio dau ddiwrnod gyda’r adran Farchnata, dau ddiwrnod gyda’r adran Gyllid, ac un diwrnod gyda’r adran Gynllunio a Gweithrediadau. Wrth weithio yn yr adran Gyllid, mae fy nhasgau wedi cynnwys gwirio a chymeradwyo ceisiadau a threuliau gan staff, ailgodi taliadau ac ymateb i ymholiadau gan staff, yn yr adran Farchnata, rwyf wedi coladu a phrawf-ddarllen proffiliau staff a chynnal ymchwil i’r farchnad ac rwyf wedi cefnogi’r adran Gynllunio a Gweithrediadau â mentrau amrywiol i staff, megis gweithio’n ystwyth ac ymgysylltu â staff. Hefyd rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i fynychu cyrsiau hyfforddi a gweithdai, gan gynnwys Microsoft Office a gwasanaethau i gwsmeriaid.
Pan ddechreuais yn yr Ysgol Reolaeth, roeddwn yn gwybod y byddwn yn wynebu heriau ar hyd y ffordd. Sut bynnag, ni allwn fod wedi rhagweld llai na hanner ffordd trwy fy lleoliad byddai pandemig byd-eang yn ei wneud yn anniogel i fynychu’r swyddfa ac yn y pen draw byddai’n arwain at gyfnod ynysu ledled y wlad. Felly, rwyf wedi cwblhau mwyafrif fy lleoliad gartref. Yn gyntaf, roedd hyn yn dir newydd imi oherwydd nad oeddwn erioed wedi gweithio gartref o’r blaen. Serch hynny, rwyf wedi darganfod ffyrdd newydd o gyfathrebu gyda’m cydweithwyr. Bellach rydym yn cwrdd drwy Zoom, a oedd yn teimlo’n rhyfedd i ddechrau ond bellach rwyf wedi arfer ag ef ac yn ei fwynhau. Gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun, mae’n helpu i gysylltu’n gymdeithasol fel hyn ac mae’n helpu i gadw ymdeimlad o normalrwydd yn ystod yr adegau rhyfedd hyn. Hefyd cafwyd cyfle i gynnal cysylltiadau rhwng y grŵp, ac rwyf wedi mwynhau’r boreau coffi wythnosol a’r te yn y prynhawn. Mae hyn wedi rhoi’r cyfle imi ymgysylltu â’r staff na fyddwn i’n cwrdd â nhw fel arfer a hwn yw’r dewis gorau ar ôl cwrdd ar hap sy’n digwydd yn y swyddfa drwy gydol y dydd yn ystod adegau arferol.
Er y byddai’n well gennyf gwblhau fy lleoliad yn y swyddfa yn amlwg ac rwyf yn drist na fyddaf yn gweld fy nghydweithwyr am gyfnod hir eto, rwyf yn ddiolchgar iawn bod yr Ysgol Reolaeth wedi caniatáu imi barhau â’m lleoliad gartref, yn enwedig gan fod llawer o’m ffrindiau sydd ar leoliad wedi cael eu gosod ar absenoldeb ffyrlo. Mewn gwirionedd, mae’r cyfnod hwn wedi bod o fudd imi oherwydd ei fod wedi hybu fy ngallu i weithio’n annibynnol. Gan fod fy niwrnodau wedi bod yn llai strwythuredig nag yn y swyddfa, roedd angen imi flaenoriaethu fy ngwaith yn fwy rhwng yr adrannau gwahanol. Hyd yn oed ar y diwrnodau pan ddylwn i fod yn gweithio gydag adran benodol, rwyf wedi dysgu i dderbyn gwaith gan adrannau eraill os bydd gwaith yn brin yn yr adran honno. Mae cadw strwythur yn enwedig o bwysig imi oherwydd fy mod ar y sbectrwm awtistiaeth, felly mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal fy ysgogiad ac felly pa mor weithgar ydw i.
Ar y cyfan, rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad yn gweithio yn yr Ysgol Reolaeth yn fawr iawn. Rwyf yn lwcus nid yn unig i fod yn rhan o dri thîm gwych, ond yn rhan o gymuned gref, glos sydd wedi bod yn gefnogol iawn yn yr adegau anodd hyn. Rwyf yn gobeithio unwaith bydd y pandemig drosodd, byddaf yn cael cyfle i ddiolch iddynt yn y cnawd. Tra bod y sefyllfa ynghylch COVID-19 wedi bod yn bell o fod yn ddelfrydol, mae’r heriau a’r rhwystrau y mae wedi’u creu wedi hybu fy ngwydnwch yn bendant, a byddaf yn gallu defnyddio’r sgil hwn yn y dyfodol.
Pe taswn yn rhoi dim ond un darn o gyngor i rywun sy’n meddwl am gymryd blwyddyn mewn diwydiant yn y dyfodol, y cyngor fyddai sicrhau eich bod yn cytuno i gyfleoedd sy’n dod ger eich bron, boed yn ddysgu sgil newydd neu gwrdd â phobl newydd. Tra bydd tasgau’n cael eu gosod o ddydd i ddydd, hefyd bydd yn rhaid ichi chwilio am ffyrdd eraill i ddatblygu’ch hun ymhellach, oherwydd drwy wneud hynny mae wedi fy ngalluogi i wireddu buddion lleoliad gwaith, a bydd hynny o fudd imi yn y dyfodol. O fis Medi, byddaf yn dychwelyd i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn fyfyriwr blwyddyn olaf, a sut bynnag bydd hyn yn digwydd, rwyf yn teimlo bod fy mhrofiad ar leoliad gwaith wedi fy nhroi’n unigolyn mwy cyflawn o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.
Ysgrifennwyd y Blog gan: Alex Markovits, myfyrwr sy’n cwblhau lleoliad yn yr Ysgol Reolaeth
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2020