Gwyliwch ein sesiynau rhagflas ar bynciau ôl-raddedig
Archwiliwch ein sesiynau rhagflas ar bynciau i dderbyn dealltwriaeth well o’n cyrsiau, yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu, cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, a bywyd fel myfyriwr.
Meddwl am Systemau: O Dîm MBA Brifysgol Abertawe
Mae systemau yn rhan allweddol o sefydliadau ac yn eu galluogi i weithredu'n effeithiol. Bydd y gweminar hon yn cyflwyno'r cysyniad o feddwl am systemau a sut y gall ein helpu i ddeall sefydliadau. Bydd y ffocws ar systemau dynol, gan gydnabod bod hyn yn aml yn gymhleth ac yn cynnwys pobl â safbwyntiau gwahanol.
Cyrsiau Trosi Ôl-raddedig: Cyfeiriad Newydd
Ydych chi erioed wedi meddwl am roi cynnig ar rywbeth newydd ar gyfer eich gradd Meistr? Bydd ein gweminar 'Newid Cyfeiriad' yn manylu ar y dewisiadau sydd ar gael i chi.
Drwy astudio pwnc sy'n wahanol i'ch gradd israddedig, yn ogystal â dod yn arbenigwr mewn mwy nag un maes, byddwch hefyd yn ehangu eich cyfleoedd cyflogaeth.
MSc Rheoli (ac Arbenigeddau): Edrych yn Agosach
Mae'n ddigon hysbys bod gradd Meistr mewn Rheoli yn gallu agor drysau di-rif i chi ar ddechrau eich gyrfa; ond beth sydd ynghlwm wrth y cwrs a pha bynciau byddwch yn eu hastudio ar draws y dirwedd fusnes? Bydd ein gweminar 'Gradd Meistr mewn Rheoli' yn rhoi rhagflas pendant i chi ar ein cyrsiau Rheoli a ble gallant eich arwain.
MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol: Edrych yn Agosach
Mae Cyfrifeg a Chyllid yn sector o bwys enfawr ym myd busnes. Mae'n hanfodol ar gyfer llwyddiant busnes a bydd gradd Meistr mewn Cyfrifeg yn eich helpu i sicrhau cyflog cychwynnol uchel ac yn eich galluogi i weithio ym mhob sector ledled y byd.
Beth yw Technoleg Ariannol a Sut mae'n Chwyldroi'r Sector Ariannol?
Beth yw Technoleg Ariannol a sut mae wedi tyfu mor gyflym?
Bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen, yr Athro Mike Buckle, yn archwilio byd cyffrous Technoleg Ariannol ac yn archwilio meysydd allweddol y gallwch eu hastudio ar y cwrs, gan gynnwys technoleg Blockchain, Deallusrwydd Artiffisial ac Arian Cyfred Digidol.
MSc Rheoli Adnoddau Dynol: Edrych yn Agosach
Gwrandewch ar Dr Paul White yn esbonio sut mae'r radd MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol wedi'i chynllunio i'ch galluogi i ddod yn arweinydd AD eithriadol y mae galw mawr amdanoch; sy'n gweithredu ag uniondeb ac sy'n gallu gwneud cyfraniadau cadarnhaol ac ystyrlon o fewn sefydliadau o bob maint ac ym mhob sector.
Dod yn Arbenigwr mewn Cyllid: Darganfod ein Gradd Meistr Cyllid Arbenigol
Mae ein cyrsiau cyllid wedi'u cynllunio i roi mantais gystadleuol a gwybodaeth ymarferol i chi ym meysydd cyllid allweddol, a fydd yn eich galluogi i fod yn aelod gwerthfawr o unrhyw dîm cyfrifeg neu gyllid.