Cyngor personol gan rywun a gafodd ei le Marchnata drwy Glirio

Awdur: Alex Lewis, myfyriwr BSc mewn Marchnata

Fy enw i yw Alex Lewis, ac fe wnes i gais i astudio yn Abertawe trwy'r system glirio ac ers hynny rydw i wedi gallu ennill llawer o brofiad perthnasol trwy'r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael yn Abertawe.

Fy mhrofiad Clirio

Ar ôl cael sawl blwyddyn o brofiad yn gweithio mewn rôl weinyddol, penderfynais gyflwyno cais i astudio Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu fy addysg i wella fy rhagolygon gyrfa yn y dyfodol. Cyflwynais i gais drwy Glirio gan fy mod wedi penderfynu cyflwyno cais ym mis Awst ar ôl dyddiadau cau UCAS, roeddwn i'n falch o gael cynnig diamod mor gyflym am le ar y cwrs o'm dewis.

Alex Lewis, myfyriwr BSc mewn Marchnata

Alex Lewis, myfyriwr BSc mewn Marchnata

Ar ôl i mi dderbyn y cynnig, ces i negeseuon rheolaidd gan y Brifysgol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses sefydlu, ac roedd cyfleoedd i ofyn cwestiynau i ddarlithwyr a myfyrwyr presennol drwy Zoom. Er gwaethaf y cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19, roedd y brifysgol yn dal i ddarparu cyfleoedd i ddatrys unrhyw ymholiadau drwy'r gwasanaeth sgwrsio byw ar y wefan, drwy e-bost, dros y ffôn a Zoom, a oedd yn rhoi sicrwydd - ac roedd hynny wedi creu argraff arnaf.

Pam Abertawe?

Dewisais gyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fy mod wedi cael fy magu yn ardal Abertawe ac rwy'n gwybod ei bod yn gymuned gyfeillgar, gyda'r bonws ychwanegol bod gan Gampws y Bae gyfleusterau modern a'i fod wrth ymyl y traeth! Roeddwn i eisoes yn adnabod myfyrwyr eraill a oedd wedi astudio yn Abertawe ac wedi cael profiad cadarnhaol, a oedd hefyd yn cefnogi fy mhenderfyniad. Roedd yr ystod o fodiwlau dewisol a oedd ar gael fel rhan o'r rhaglen BSc mewn Marchnata yn apelio ataf hefyd, gan ei bod yn rhoi cyfle i archwilio meysydd eraill o Reoli Busnes megis Ymddygiad Sefydliadol ac Entrepreneuriaeth, tra roedd yn amlwg y byddai'r modiwlau craidd yn rhoi sylfaen gadarn i'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer gyrfa ym maes marchnata. Mae'r cwrs BSc mewn 

Marchnata yn Abertawe yn rhan o raglen gradd achrededig y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), a wnaeth ategu ymhellach fy mhenderfyniad i astudio yn Abertawe gan fod y Brifysgol hefyd yn Ganolfan Astudio CIM sydd wedi fy ngalluogi i gwblhau'r modiwl gofynnol tra fy mod yn dal i astudio i ennill cymhwyster CIM ychwanegol pan fydda i'n graddio y flwyddyn nesaf.

Fy mhrofiad yn Abertawe

Ers dechrau fy rhaglen radd ym mis Medi 2020, rydw i wedi cael y cyfle i gael llawer o brofiad sy'n berthnasol i faes marchnata. Rydw i wedi gwirfoddoli i'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), gan weithio gyda gweithiwr marchnata proffesiynol profiadol i hyrwyddo Clybiau Marchnata CIM a ddyfeisiwyd i gefnogi dysgu myfyrwyr drwy weminarau ar-lein, ac rydw i hefyd wedi cael adolygiadau gweminar a gyhoeddwyd ar wefan CIM (Cymru). Rydw i hefyd wedi cael profiad ymarferol yn gweithio fel intern yn adran Farchnata Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, sydd wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau trosglwyddadwy megis prawf-ddarllen, golygu cynnwys y wefan, gweithio gydag eraill, a rheoli amser. Mae'r interniaeth wedi bod yn gyfle gwych i mi gael hyfforddiant ar ddefnyddio System Rheoli Cynnwys, dadansoddi allweddeiriau, a Google Analytics, sydd i gyd yn sgiliau dymunol iawn mewn llawer o rolau marchnata. Mae cael fy newis i gynrychioli'r Brifysgol fel Myfyriwr Llysgennad hefyd wedi fy ngalluogi i roi cyflwyniadau, mynd ar deithiau tywys ac ymgysylltu â darpar fyfyrwyr i roi cyngor ar y broses cyflwyno cais i'r brifysgol a chynnig mewnwelediadau o'm profiad yn Abertawe.

Fy nghyngor ar gyfer cyflwyno cais drwy Glirio

Yn seiliedig ar fy mhroses cyflwyno cais drwy Glirio a'r profiad a ges i ers i mi ddechrau astudio yn Abertawe, byddwn yn bendant yn argymell cyflwyno cais i astudio yn Abertawe gan fod cyflwyno cais drwy Glirio yn brofiad cadarnhaol gan fod y Brifysgol wedi cynnig lle i mi'n brydlon, ac wedi parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ddechrau'r semester cyntaf. Manteisia ar y digwyddiadau a ddarperir naill ai ar-lein neu'n bersonol i gael rhagor o wybodaeth a gofynna dy gwestiynau dy hun am dy gwrs a'r Brifysgol gan academyddion, staff cymorth a myfyrwyr presennol. Ymchwilia i'r cwrs yr hoffet ei astudio a sicrha fod cynnwys y cwrs o ddiddordeb i ti, ac ystyria a fyddai'r radd yn dy gefnogi i gyflawni dy uchelgeisiau gyrfaol. Yn olaf, mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi llawer o gyfleoedd ychwanegol i mi sydd wedi gwella fy mhrofiad fel myfyriwr – cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol i gwrdd â phobl eraill a meithrin sgiliau trosglwyddadwy.  

Yn gyntaf, Paid â Phanicio, Rydym Yma i Helpu

Efallai nad wyt ti wedi cael y canlyniadau yr oeddet ti'n gobeithio amdanynt, neu efallai dy fod wedi cael newid calon munud olaf am dy ddyfodol, ond nid yw hyn yn golygu na elli di barhau i astudio marchnata yr hydref hwn. Rydym yma i helpu, a byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnat i sicrhau dy le yn y Brifysgol drwy Glirio. Efallai ei fod yn ymddangos fel pe bai'n amser llawn straen ar hyn o bryd, ond yn bendant nid yw dod drwy Glirio yn golygu diwedd dy yrfa farchnata.

Beth sydd ei angen arnat ar gyfer Clirio?

Hoffwn dy helpu i dynnu rhywfaint o'r straen  o'r broses Glirio, felly rydw i wedi ateb ymholiadau cyffredin ac wedi darparu gwybodaeth ychwanegol, i dy helpu i baratoi ar gyfer Clirio a gwneud y gorau o'r broses gobeithio.