Awdur: Alistair Dickson, Myfyriwr BSc Cyfrifeg a Chyllid
Helo, fy enw i yw Alistair Dickson, a gwnes gais i Brifysgol Abertawe drwy’r broses glirio, ac rwyf wedi cael profiad anhygoel a bythgofiadwy ers hynny.
Fy Mhrofiad Clirio
Ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, gwnes i ddarganfod nad oeddwn i wedi cael fy nerbyn gan y brifysgol o fy newis na fy ail ddewis oherwydd bod canlyniadau fy arholiadau Safon Uwch yn waeth na'r disgwyl; roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i mi fynd drwy'r broses Glirio os oeddwn i am fynd i'r brifysgol o hyd.
Ar ôl edrych ar wefan UCAS i weld pa brifysgolion yn y DU oedd yn cynnig lleoedd Clirio, sylwais i fod Prifysgol Abertawe'n cynnig lleoedd Clirio ar ei chwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid; fodd bynnag, doeddwn i ddim wedi ennill y graddau angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn ar ddiwrnod y canlyniadau. Felly, penderfynais i mai'r peth gorau fyddai cyflwyno cais am y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda blwyddyn sylfaen gan fod y gofynion yn is o ran graddau Safon Uwch.
Penderfynais i ffonio llinell gymorth Clirio Prifysgol Abertawe, a ches i fy nghysylltu ag un o fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe. Pan esboniais i fy sefyllfa i’r myfyriwr, dywedodd y byddwn i'n gallu astudio BSc Cyfrifeg a Chyllid. Yna gwnaeth y myfyriwr ar y llinell gymorth fy helpu i lenwi fy ffurflen gais am y cwrs ac am lety myfyriwr. Pan ddaeth fy ngalwad ffôn i'r llinell gymorth Clirio i ben, roedd fy nghais i astudio BSc Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei dderbyn!
Ar ôl i mi gael e-bost i gadarnhau fy nghynnig i astudio ym Mhrifysgol Abertawe drwy Glirio, derbyniais i wahoddiad i ddod i ddiwrnod agored Clirio yn y brifysgol, lle ces i gyfle i fynd ar daith o gwmpas Campws y Bae, Campws Singleton a'r llety a oedd ar gael i fyfyrwyr, yn ogystal â sgwrsio â darlithwyr a myfyrwyr am y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid. Gwnaeth y diwrnod agored Clirio fy helpu i deimlo'n fwy hyderus am fy mhenderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddwn i'n edrych ymlaen at symud i'r llety a dechrau cael fy addysgu ym mis Medi.
Pam Abertawe?
Dewisais i gyflwyno cais i Brifysgol Abertawe drwy Glirio gan fy mod i wedi ymweld â dinas Abertawe'n flaenorol ac roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus am symud yno; ar ben hynny, roedd fy mam wedi cwblhau rhan o'i gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd hi bob amser wedi siarad yn gadarnhaol am ei phrofiadau. Yn ogystal, roeddwn i wedi gweld ar-lein y byddai fy nghwrs yn cael ei gynnal ar Gampws y Bae. Dyma gampws arloesol a oedd newydd ei adeiladu ger y traeth ac mae ganddo opsiynau cludiant cyhoeddus hawdd a chyfleus i'r ddinas, y siopau a'r orsaf drenau.
Un o'r prif resymau y penderfynais i astudio yn Abertawe oedd hyblygrwydd y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid. Mae'r cwrs yn caniatáu i chi ymgymryd â blwyddyn mewn diwydiant neu flwyddyn dramor os dymunwch chi, yn ogystal â'ch galluogi i ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau ar gyfer eich astudiaethau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Ar ben hynny, mae'r cwrs Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i achredu gan y cyrff cyfrifeg byd-eang – Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), ICAEW a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Cymru a Lloegr (CIMA) – ac yn meddu ar gysylltiadau agos â'r rhain, gan alluogi myfyrwyr i achub y blaen o ran ennill cymhwyster cyfrifydd siartredig gydag un ohonyn nhw.
Fy Mhrofiad yn Abertawe
Mae fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad anhygoel a bythgofiadwy! Yn ogystal â chael y cyfle i gwrdd a chysylltu â phobl o bedwar ban byd, rwyf wedi cael y cyfle i dyfu a datblygu fel unigolyn drwy symud i fyw gyda phobl nad oeddwn i'n eu hadnabod ar y pryd sydd bellach yn ffrindiau i mi.
Roedd y darlithwyr ar fy nghwrs yn wybodus ac yn frwd am eu pynciau. Ar ben hynny, maen nhw bob amser wedi sicrhau bod eu darlithoedd a'u hadnoddau addysgu'n llawn gwybodaeth ac yn afaelgar. Yn ogystal, bydden nhw bob amser ar gael i helpu pe baech chi'n ansicr am unrhyw gynnwys addysgu.
Mae fy amser yn byw yn llety myfyrwyr Campws y Bae yn ystod fy mlwyddyn gyntaf wedi bod yn wych; mae'r llety'n fodern, yn helaeth ac yn gartrefol ac mae'n cynnig y bonws ychwanegol o fod ger y traeth ac o fewn pellter cerdded i'r mannau addysgu a chymdeithasol. Ar ben hynny, mae'r gymuned o fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws y Bae yn gynhwysol ac yn groesawgar, a wnaeth helpu i wneud i'r campws deimlo'n gartrefol.
Mae digon o gyfleoedd ym Mhrifysgol Abertawe i gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a digwyddiadau amrywiol, sy'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl!
Mae Abertawe'n ddinas sy'n gartref i mi bellach. Mae'n ddinas fach lle gallwch chi gerdded i unrhyw le mae angen i chi fynd; fodd bynnag, mae ganddi naws dinas fawr hefyd â digon o siopau, bwytai a phrofiadau, ynghyd â chysylltiadau â champysau'r brifysgol drwy lwybr beicio a chludiant cyhoeddus cyfleus.
Fy Nghyngor ar Gyfer Cyflwyno Cais Drwy Glirio
Yn seiliedig ar fy mhrofiad i, un o'r pethau gorau gallwch chi ei wneud os ydych chi'n mynd drwy Glirio yw ffonio llinell gymorth Clirio'r Brifysgol. Mae hi yno i'ch helpu ac weithiau gall siarad â rhywun am eich opsiynau fod yn fwy buddiol na darllen amdanyn nhw ar wefan y brifysgol.
Rwy'n gwybod y gall mynd drwy Glirio fod yn brofiad heriol, yn enwedig ar ôl derbyn canlyniadau eich arholiadau Safon Uwch. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ceisio aros yn bwyllog a chadw meddylfryd cadarnhaol ynghylch eich sefyllfa, gan y gall hyn helpu i'ch rhoi ar ben ffordd a'ch helpu i gael y profiad gorau posib yn y brifysgol.
Yn gyntaf, peidiwch â phoeni – rydyn ni yma i helpu
Efallai nad ydych chi wedi cael y canlyniadau roeddech chi wedi gobeithio amdanyn nhw, neu efallai eich bod chi wedi newid eich meddwl am eich dyfodol, ond gallwch chi ddal i astudio cyfrifeg a chyllid yn ystod yr hydref. Rydyn ni yma i’ch helpu a byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi i sicrhau eich lle yn y brifysgol drwy Glirio. Efallai ei bod hi'n ymddangos yn adeg heriol ar hyn o bryd, ond yn bendant ni fydd dod drwy Glirio'n arwain at ddiwedd eich gyrfa ym myd cyfrifeg a chyllid.
Beth sydd ei angen arnat ar gyfer Clirio?
Hoffwn dy helpu i dynnu rhywfaint o'r straen o'r broses Glirio, felly rydw i wedi ateb ymholiadau cyffredin ac wedi darparu gwybodaeth ychwanegol, i dy helpu i baratoi ar gyfer Clirio a gwneud y gorau o'r broses gobeithio.