Croeso i'r Ganolfan Pobl a Sefydliadau (C4PO), lle rydym yn gymuned amrywiol o ysgolheigion sy'n ymrwymo i ymgysylltu'n feirniadol â heriau a chymhlethdodau byd gwaith modern.
Yn y Ganolfan Pobl a Sefydliadau rydym yn ymgysylltu â dadlau cyfoes ac yn herio doethineb confensiynol ynghylch gwaith a bywydau gweithio. Trwy fethodolegau ymchwil arloesol a thystiolaeth o ansawdd uchel, rydym yn creu gwybodaeth i hysbysu llunwyr polisi ac ymgysylltu ag ymarferwyr.
Yn y bôn, rydym yn credu dylai ein hymchwil wella arferion cyflogaeth i feithrin amgylcheddau gwaith mwy diogel, hygyrch a chynhwysol i bawb. Rydym yn ymrwymedig i wthio ffiniau gwybodaeth a chyfrannu at newid ystyrlon yn y byd gwaith. Mae ein gwaith ymchwil yn cynnwys gwaith a gweithwyr ymhob sector, sydd yn aml yn mynd y tu hwnt i'n cyd-destun Cymreig lleol i ystyried materion rhyngwladol. Rydym hefyd yn astudio cwmnïau bach a'r hunangyflogedig i ystyried sut mae materion gwaith yn cael eu profi yn y cyd-destunau micro hyn. Mae ein hymchwil hefyd yn mynd y tu hwnt i swyddi cyflogedig traddodiadol i ddeall llafur amrywiol, gan gynnwys gwirfoddoli a gweithio'n gydweithredol. Ar draws y gweithgarwch hwn, tynnir ein sylw at waith a gweithwyr ar ymylon economïau cyfoes neo-ryddfrydol a thuag at groestoriad o heriau sy'n wynebu'r rhai dan anfantais.
Mae ein gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw megis Human Relations, Work, Employment and Society, Human Resource Management Journal a Management Learning. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid o’r diwydiant a gwasanaethau i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil trwy ein rhaglen goruchwyliaeth ddoethurol.
Ymhlith y Themâu Ymchwil Presennol mae:
- Sut olwg sydd ar waith da? Archwilio profiad y gweithiwr mewn economïau neo-ryddfrydol cyfoes.
- A yw arweinwyr yn angenrheidiol? Pryd mae polisi arweinyddiaeth, rheoli a sefydliadol yn effeithio ac yn gwella lles gweithiwr.
- Caru gwaith? Adnabod effaith ffurfiau newidiol, anghonfensiynol, gwirfoddol, hybrid neu ddi-dâl o waith ar unigolion, aelwydydd a chymunedau.
- A yw gweithwyr yn gwneud mwy am lai? Sut mae'r deunydd a'r buddion seicolegol o gynnal a chyflawni gwaith yn cael eu creu a'u dosbarthu ar draws y gymdeithas.
- A yw pwy wyt ti yn parhau'n broblem? Sut mae croestoriad o hunaniaethau amrywiol yn y gweithle yn siapio symudedd a chydraddoldeb.
- Pwy fydd allan o waith yn fuan? Effaith amghymesurol gwybodaeth am genhedlaeth, technoleg, diwylliant, amser a lle yn y gweithle byd-eang.