Mae'r Ganolfan Ymchwil i'r Economi Ymwelwyr (CVER) yn ymroddedig i greu, marchnata a rheoli cymunedau bywiog, cynhwysol a chynaliadwy ledled Cymru a thu hwnt.
Cydnabyddir yn gynyddol bod twristiaeth – a'r cysyniad ehangach o'r economi ymwelwyr – yn allweddol o ran ysgogi adfywiad cymunedol ac economaidd, gweithgarwch entrepreneuraidd, a thwf cynaliadwy. Er mwyn creu cyrchfannau llwyddiannus, mae angen ystyried amrywiaeth eang o atyniadau, seilwaith a gwasanaethau, a hynny mewn ffordd sy'n pwysleisio ac yn diogelu'r nodweddion sy'n gwneud lleoedd yn arbennig, yn nodedig ac yn apelgar i drigolion ac ymwelwyr ar yr un pryd.
Mae ein tîm yn dadansoddi'r economi ymwelwyr mewn modd cyfannol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol i wella ein dealltwriaeth o'r ffyrdd gorau o reoli twf twristiaeth er iechyd a llesiant unigolion, cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.
Rydyn ni’n croesawu cydweithrediadau â phartneriaid allanol ac yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig â diddordeb. Rydyn ni’n cynnig BSc mewn Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol, MSc mewn Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol, a chynlluniau gradd MPhil a PhD.
Yn 2021 lansion ni ein Cyfres o Ddarlithoedd gan Siaradwyr Gwadd. Cliciwch ar y dolenni ar gyfer y digwyddiadau isod i ddysgu rhagor am siaradwyr y gorffennol a'r rhai sydd ar y gweill.