Beth yw Economeg?
Arian sy’n achosi i’r byd droi: ond sut? Dysgwch sut mae economi’r byd yn dylanwadu ar bob agwedd ar ein bywydau beunyddiol - o wleidyddiaeth y byd i’r gyfraith a’r gymdeithas. Dysgwch sut mae adnoddau’n cael eu rhannu’n lleol ac yn fyd-eang a deall pam mae gwleidyddion yn gwneud penderfyniadau fel y maent mewn gwirionedd.
Byddwch yn dysgu am ddamcaniaeth economeg wedi’i chyfuno ag elfennau mathemategol ac ystadegol. Byddwn yn adeiladu’ch gallu i ddadansoddi, eich gwybodaeth a thechnegau er mwyn ichi ffynnu mewn disgyblaeth sydd, ar ôl Meddygaeth, y rhaglen radd fwyaf buddiol yn ariannol yn unrhyw le.
Pam Dewis Abertawe?
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Mae gan ein Tîm Cyflogadwyedd neilltuol enw da iawn am lansio gyrfaoedd llwyddiannus.
Arbenigedd Addysgu. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf sy’n arwain yn eu meysydd.
Mae ein Swyddogion Profiad Myfyrwyr cyfeillgar yn gofalu amdanoch – os ydych wedi astudio Mathemateg i Safon Uwch ai peidio, byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir er mwyn llwyddo yn eich astudiaethau.
Pa Opsiynau Sydd ar Gyfer Gyrfaoedd i Raddedigion?
Bydd graddedigion mewn Economeg o Abertawe yn barod am gyfleoedd cyflogaeth sy’n talu’n dda ac yn herio’r meddwl.
Os ydych yn targedu’r egni dan bwysau ar y llawr masnachu, neu’r credadwyedd o fod yn awdurdod ar dueddiadau busnes, bydd ein graddau’n eich gwneud chi’n ymgeisydd cryf ar gyfer unrhyw gyflogwr graddedigion.
Dysgwch am y gefnogaeth yrfaol sydd ar gael ichi.
"Roeddwn yn mwynhau dysgu, datblygu ac adeiladu ar y sylfaen a osodwyd yn ystod fy ngradd baglor mewn economeg yn Abertawe, yn ogystal â dysgu technegau a modelau newydd ar fy nghyrsiau. Fy hoff fodiwl oedd Economeg Facro oherwydd bod ganddo elfen fathemateg gryf ac roedd hynny’n cyd-fynd â’m sgiliau mathemateg cryf."
- Rahat Haque; MSc a BSc mewn Economeg a Chyllid
Ein Hopsiynau Astudio Hyblyg
Rydym bob amser yn ceisio mabwysiadu ymagwedd mor hyblyg â phosib, felly peidiwch â chynhyrfu os nad ydych yn bodloni holl delerau’r cynnig rydym wedi’i roi ichi.
Rydym yn annog pob ymgeisydd i siarad â ni am eu cynigion; ffoniwch ni neu anfonwch neges e-bost.
Bydd gennych ryddid i newid rhwng BSc mewn Economeg, BSc mewn Economeg a Busnes, a BSc mewn Economeg a Chyllid hyd nes ichi ddechrau’ch ail flwyddyn.
Ar gyfer myfyrwyr is-raddedig y Deyrnas Unedig rydyn ni’n cynnig yr opsiwn i wneud Blwyddyn Sylfaen gyda phob un o’n cyrsiau gradd economeg.
Mae’r rhain yn ddewis sy’n dod yn fwy poblogaidd oherwydd eu bod yn cynnig:
- Dosbarthiadau llaiâ chefnogaeth fwy personol;
- cymorth ychwanegolgan gynnwys Mathemateg, ysgrifennu traethodau a gwaith grŵp;
- a byddwch yn ennill sail gadarn mewn cyfrifeg, cyllid, ystadegau, strategaeth ac arbenigeddau rheolaeth.
Gall myfyrwyr rhyngwladol israddedig ymgeisio am ein Llwybr Economeg Israddedig. Hefyd rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant Saesneg er mwyn eich cefnogi a’ch paratoi ar gyfer eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.