Rydym yn chwilio am gyn-fyfyrwyr a llysgenhadon neilltuol y dyfodol

Mae ein rhaglen Datblygu Dyfodol yn fwy na phecyn ysgoloriaeth; ynghyd â chymorth ariannol ar gyfer blwyddyn academaidd, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn gwella’ch gyrfa. Bydd y rhai sy’n derbyn yr ysgoloriaeth yn cael y cyfle i weithio gyda’r timoedd Recriwtio a Marchnata ar nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Diwrnodau Agored, yn ogystal â gweithio gyda’r Swyddfa Gwybodaeth Myfyrwyr.

Ochr yn ochr â’ch astudiaethau, rydym hefyd yn annog myfyrwyr i ymuno â chymdeithas neu ddod yn gynrychiolydd ar gyfer eu rhaglen radd. Credwn y bydd y sgiliau a ddatblygir gennych drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn gwneud i chi ddisgleirio ymhlith eich cyfoedion.

CLYWED GAN RAI O DDEILIAID

Amy Hillman

female smiling

"MAE WEDI TRAWSNEWID FY MYWYD 100%.

Dw i wedi elwa'n enfawr o'r Ysgoloriaeth. Ni allwn i wedi gallu fforddio cwblhau fy ngradd Meistr hebddi. Yn ogystal â rhoi cefnogaeth ariannol i mi, roedd yn wych bod yn rhan o'r gymuned Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol. Mae'r Ysgol Reolaeth yn trefnu sesiynau cwrdd i bob derbynnydd Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol bob ychydig o fisoedd sy'n golygu ces i'r cyfle i gwrdd â myfyrwyr israddedig eraill, ar wahân i'r rhai ar fy nghwrs. Roedd hyn yn gyfle gwych i rwydweithio ag eraill a rhannu profiadau. Roedd yn teimlo fel cymuned glos a fel rhwydwaith cymorth croesawgar ymysg yr holl astudio."

"Y PENDERFYNIAD GORAU DW I WEDI'I WNEUD YN FY MYWYD.

Fel myfyriwr rhyngwladol yn dewis astudio fy ngradd israddedig yn y DU, llwyddodd yr ysgoloriaeth i fy elwa’n ariannol yn sylweddol a chymaint mwy na’r disgwyl. Bu i’r tîm Datblygu Dyfodol fy ysbrydoli i ddod yn llysgennad myfyrwyr ar gyfer yr Ysgol a’r Brifysgol sydd yn ychwanegiad gwych at fy CV. Fel deilydd ysgoloriaeth, rwyf wedi creu rhwydwaith newydd o ffrindiau, y swydd ran-amser orau yn y brifysgol, perthynas dda â staff yr Ysgol, wedi magu hyder newydd a llawn hwyliau. Byddwn yn argymell i unrhyw fyfyriwr ymgeisio."

Natasha Mawera

female smiling

Ashley Holloway

male smiling

"ROEDD Y BROSES GWNEUD CAIS YN IACHUSOL IAWN.

Roedd yn gyfle i nodi fy uchelgais ar bapur. Nid yw'r aseswyr yn chwilio am gyrhaeddiad academaidd yn unig ond yn hytrach, maent am ddeall eich ysgogiadau am gwblhau gradd meistr a bod yn rhan o dîm Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol. Nid yw derbyn yr ysgoloriaeth yn arwain at gymorth ariannol yn unig. Bydd gennych hefyd lu o gyfleoedd gwych o ganlyniad, megis cefnogi Diwrnodau Agored y Brifysgol ac ymgysylltu â darpar fyfyrwyr ynghylch pam dylent astudio yn Abertawe."

Ymwadiad

Mae’r Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol ar gael ar gyfer cyrsiau’r Ysgol Reolaeth yn unig. Am ragor o wybodaeth ynghylch ysgoloriaethau sydd ar gael i bob myfyriwr, ewch i dudalennau Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Prifysgol Abertawe – 

Ysgoloriaethau Israddedig
Ysgoloriaethau Ôl-raddedig
Ysgoloriaethau Rhyngwladol