Llun o Iwan Cotgreave

Iwan Cotgreave

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg

Ar ôl dod i Abertawe drwy Glirio, doedd gen i ddim llawer o wybodaeth heblaw am wybod lle roedd hi.  Pan oeddwn yn edrych drwy fy opsiynau, roeddwn i'n chwilio am rywle i astudio ffiseg, ac o fy opsiynau, Abertawe oedd yn cynnig y cwrs gorau. Gan fy mod bellach yn fy ail flwyddyn, byddwn wedi hoffi cael gwybod am y brifysgol cyn hynny gan y byddwn siŵr o fod wedi ei nodi wedi fy newis cadarn. Mae gan y cwrs ffiseg gynnwys gwych ond mae’n cael ei haddysgu'n arbennig o dda hefyd ac mae'r cysylltiadau â CERN yn cynnig cyfleoedd gwych yn enwedig drwy'r gymdeithas ffiseg sy'n trefnu teithiau bob yn ail flwyddyn, ac roeddwn yn ddigon ffodus i fynd yn fy mlwyddyn gyntaf.

Fel dinas, un o rinweddau gorau Abertawe yw ei bod hi'n fach ac mae awyrgylch cyfeillgar a hamddenol yma. Mae hefyd wedi'i hamgylchynu gan dirweddau godidog o'r Mwmbwls i Fannau Brycheiniog sydd dafliad carreg i ffwrdd. Mae'r rhan fwyaf o'r lleoedd yn hynod hygyrch ar y trên hefyd.

Ar ôl graddio, rwyf am barhau i astudio hyd at fy PhD, a chyda'm diddordeb mewn ffiseg gronynnau a gwrthfater, gallai hyn fod yn Abertawe, a fyddai hynny ddim yn ddrwg o beth. Dwi'n teimlo nad yw'n cael ei chanmol ddigon fel Prifysgol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?             

Ydw, ar hyn o bryd rwy'n aelod ac yn fy ail flwyddyn yn ysgrifennydd y Gymdeithas Ffiseg, Physoc. Bob yn ail flwyddyn, mae'r gymdeithas yn trefnu taith i CERN ac mae hynny'n werth ei wneud.

Drwy gydol y flwyddyn, mae'r gymdeithas yn cynnal amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol a theithiau gan gynnwys un i CISM, y cyfleuster lled-ddargludol ar Gampws y Bae yn ogystal â digwyddiad ffurfiol Ffiseg.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?

Ydw, yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn yn byw ym Mhentref y Myfyrwyr. Dyma'r flwyddyn olaf cyn iddo gael ei ddymchwel felly roedd y prisiau'n rhad ac roedden ni’n cael tocynnau bws am ddim. Mae mor bwysig yn y flwyddyn gyntaf gan eich bod yn cael cymysgu â phobl eraill nad ydynt ar eich cwrs  sydd hefyd yn yr un sefyllfa â chi.

Wnaethoch chi gyflwyno cais drwy Glirio?  

Do, wrth gyflwyno cais drwy Glirio fy mhrif nod oedd astudio gradd ffiseg. Roedd Abertawe'n cynnig y cwrs gorau a dyna oedd fy newis gwreiddiol. Gwnaeth Abertawe greu argraff arnaf pan ddes i ymweld â'r lle ar Ddiwrnod Agored Clirio, a oedd yn ffodus gan yr oeddwn eisoes wedi derbyn y cynnig. Dyma un o'r penderfyniadau gorau roedd yn rhaid i mi wneud ac mae'n drueni na chefais wybod am Abertawe'n gynt.