Ein nod yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang trwy ymchwil ac arloesi blaengar, cydweithredol.

Mae ein hymchwil yn ymestyn o ymchwil awyr las i fecanweithiau biolegol sylfaenol i wyddoniaeth fiofeddygol, seicoleg drwodd i nanotechnoleg, astudiaethau delweddu a throsiadol yn cynnwys cleifion, datblygu gwasanaethau'r GIG a chydweithio diwydiannol. Mae ein llwyddiant wedi’i danategu gan ein cyfleusterau ymchwil heb eu hail, gydag adeiladau modern o’r radd flaenaf a’r offerwaith diweddaraf.

Cynhelir ymchwil ar y cyd trwy bedwar Sefydliad Ymchwil gyda themâu trawsbynciol sefydledig sy'n sail i'n diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol bywiog.

Ein sefydliadau ymchwil ac arloesi

Ein Heffaith Ymchwil

Fel y cydnabyddir gan berfformiad cryf iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021), mae gennym enw da ym maes ymchwil a arweinir gan ymchwilwyr o safon fyd-eang sy’n arwain at welliannau iechyd i gleifion, i ddiwydiant a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae gan y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gymuned ymchwil fywiog sy'n denu cyllid ymchwil o fri a myfyrwyr PhD cyffrous. Mae cyllid ymchwil mawr diweddar a ddyfarnwyd i'r gyfadran yn cynnwys y British Heart Foundation, UKRI, HDRUK, ADRN, MRC a Smart Expertise trwy Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â heriau byd-eang a gwella iechyd, cyfoeth a llesiant cymdeithas. Yn ei phobl ac yn ei huchelgais am ragoriaeth mae cryfder cymuned ymchwil y Gyfadran. Trwy weithio ar y cyd ar draws themâu ymchwil y gyfadran, gall ein hymchwilwyr talentog wthio ffiniau yn eu meysydd ac arloesi o fewn, a thu hwnt, i'r gymuned ymchwil.

Rhestr grwpiau ymchwil A-Z

Llun ymennydd mewn natur