Dr Kurtis Pankow

darlithydd mewn seicoleg chwaraeon, Sport and Exercise Sciences

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A125
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Kurtis Pankow â Phrifysgol Abertawe yn 2023. Cwblhaodd ei BSc ym Mhrifysgol St Francis Xavier yn Antigonish, Nova Scotia, Canada, a'i MA a PhD mewn Cinesioleg, Chwaraeon a Hamdden gyda ffocws ar seicoleg chwaraeon ym Mhrifysgol Alberta yn Edmonton, Alberta, Canada. Yn dilyn cwblhau ei PhD, cwblhaodd Kurtis gymrodoriaeth ôl-ddoethurol mewn seiciatreg ym Mhrifysgol y Frenhines yn Kingston, Ontario, Canada.

Gall gwaith ymchwil Kurtis gael ei rannu'n feysydd diddordeb eang. Ei ddiddordeb pennaf yw iechyd meddwl a lles, gyda'i waith yn canolbwyntio ar ddeall sut gall myfyrwyr prifysgol gael eu cefnogi drwy eu rhaglenni chwaraeon i brofi canlyniadau iechyd meddwl gwell. Ail faes diddordeb Kurtis yw trosi gwybodaeth a'i rhoi ar waith, sy'n ymwneud â sut gallwn symleiddio'r broses o drosi ymchwil yn arfer dyddiol.

Yn ogystal â'i waith ymchwil, mae Kurtis yn gefnogwr pêl-droed (Canadaidd) brwd, ac yntau wedi chwarae a hyfforddi yn ystod ei astudiaethau, a gweithio fel gwyddonydd chwaraeon yng Nghynghrair Pêl-droed Canada am ddau dymor.

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd meddwl mewn chwaraeon
  • Lles mewn chwaraeon
  • Trosi gwybodaeth
  • Gwyddor gweithredu
  • Dulliau ymchwil ansoddol
  • Dulliau ymchwil cymysg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Kurtis yn ymwneud â seicoleg chwaraeon a dulliau ymchwil ansoddol. Mae Kurtis yn mwynhau addysgu am iechyd meddwl a lles mewn amgylcheddau chwaraeon yn bennaf, a phatrymau ymchwil mewn dulliau ymchwil.

Ymchwil Cydweithrediadau