Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00277
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
30 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym eisiau penodi gweithiwr proffesiynol brwdfrydig a rhagweithiol i gyfrannu at dwf cymorth Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd ar draws y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n bennaf ar y cyd â dwy ysgol yn y Gyfadran; Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg a'r Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg. Y prif feysydd gweithredu fydd:
• Paratoi myfyrwyr i ganfod lleoliadau gwaith, mewn perthynas â'r modiwlau a gyflwynir a'r cynnwys cysylltiedig, goruchwylio myfyrwyr ar raglenni Blwyddyn mewn Diwydiant a thwf y Flwyddyn ym myd Diwydiant ar draws y meysydd pwnc.
• Gweithio ar y cyd â'r Gyfadran a'r Brifysgol ehangach i ddatblygu ac ehangu portffolio o berthnasoedd presennol a newydd gyda byrddau partneriaethau strategol, rhanddeiliaid, cyfryngwyr a chyflogwyr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, er mwyn sicrhau bod y Gyfadran yn cyflawni ei thargedau strategol ar gyfer cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith.
• Sefydlu digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â diwydiant at ddibenion meithrin cydweithrediadau ar y cyd â byd diwydiant yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i gynorthwyo wrth ddarparu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a chyfleoedd i raddedigion, wrth ddatblygu gweithgareddau entrepreneuraidd ac wrth gefnogi datblygiad ehangach cyflogadwyedd myfyrwyr.
• Cydlynu rhaglen gyfnewid Astudio Dramor y Gyfadran mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol ac arweinwyr academaidd perthnasol.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n angerddol am ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cymorth ac ymgysylltu sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau myfyrwyr a thrwy gydol eu taith yn y Gyfadran ym Mhrifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad isod.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho PS Candidate Brochure (CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr