Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00278
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Meh 2024
Dyddiad Cyfweliad
8 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Gemeg yn yr Ysgol Peirianneg a'r Gwyddorau Cymhwysol (SEAS) yn cyflwyno ymchwil ragorol yn rhyngwladol ac o'r radd flaenaf mewn cemeg polymerau a deunyddiau, ynni gwyrdd, storio ynni, lled-ddargludyddion a chemeg mewn cymwysiadau iechyd. Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Canolfan newydd gwerth £90M ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol, ac wedi cyrraedd yr 20 orau yn y DU yn y Complete University Guide a'r Guardian University Guide, rydym yn tyfu fel adran uchelgeisiol a blaengar sy'n rhoi profiad cemeg modern i'n myfyrwyr ac yn hyb i gryfhau ein gweithgareddau ymchwil gemeg presennol ac o safon ar draws y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a'r tu hwnt iddi.

Y prif bwyslais ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus fydd cyflawni rhagoriaeth ymchwil, llunio cyhoeddiadau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, sicrhau cyllid cystadleuol a chreu effaith yn y byd go iawn. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr hynod frwdfrydig gydag arbenigedd ymchwil cryf mewn unrhyw faes cemeg gyfrifiadol gymhwysol a modelu moleciwlaidd, er rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr gyda ffocws penodol ar o leiaf un o'r meysydd cynaeafu a storio ynni, deunyddiau (gan gynnwys bioddeunyddiau), lled-ddargludyddion, cemeg feddygol a'r defnydd o ddysgu peirianyddol ac AI ar gyfer darganfyddiadau cemegol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dod â gallu ymarferol a sgiliau sy’n ategu’r rhai hynny sydd eisoes yn bodoli yn SEAS, i gryfhau gallu ymarferol. Bydd gan yr ymgeisydd enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bydd yn creu rhaglen ymchwil gydweithredol annibynnol yn llwyddiannus. Bydd rhaglen ymchwil sy’n rhoi pwyslais ar anghenion diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd yn cael ei hystyried yn ffafriol.

Mae ein holl gyrsiau’n cael eu harwain gan ymchwil ac yn seiliedig ar ymarfer, felly dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu dod â’i gefndir i addysgu i gyfoethogi profiad myfyrwyr ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.

Gofynnir i ymgeiswyr nodi'n glir ba rôl y maent yn ymgeisio amdani wrth gyflwyno eu ceisiadau a dylent fod â phroffil academaidd sy'n cyd-fynd â'r rôl honno.

Rhannu

Lawrlwytho FSE Candidate Brochure (CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd L JD.docx Lawrlwytho Disrgifiad swydd SL JD.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr