Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00281
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
3 Meh 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Comisiwn Bevan yw’r felin drafod fwyaf blaenllaw ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Caiff y Comisiwn ei gynnal a'i gefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae'r Comisiwn yn darparu cyngor annibynnol ac awdurdodol ar iechyd a gofal i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr yn GIG Cymru, y DU a'r tu hwnt. Ei nod yw sicrhau bod iechyd a gofal yng Nghymru'n gynaliadwy, wrth gadw at egwyddorion y GIG a sefydlwyd gan Aneurin Bevan.

Mae'r Comisiwn yn tynnu ar arbenigedd ei 24 o Gomisiynwyr o fri rhyngwladol i ddatblygu papurau dylanwadol i lywio polisïau Llywodraeth Cymru. Hefyd rydym yn gobeithio rhoi'n syniadau ar waith trwy Arloeswyr Bevan a dulliau arloesol eraill. Mae Comisiwn Bevan wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda’i Esiamplwyr Bevan ac mae bellach yn chwilio am ddulliau effeithiol i gefnogi'r broses o fabwysiadu a lledaenu datblygiadau arloesol, llwyddiannus ar raddfa fawr.

Bydd yr Arweinydd Ymchwil a Datblygu'n rhoi arweinyddiaeth o ran gwaith ymchwil a datblygu Comisiwn Bevan. Bydd yn gyfrifol am arwain a chydlynu’r holl weithgareddau ymchwil a wneir gan y Comisiwn. Bydd yn rhoi arweinyddiaeth broffesiynol i’r holl staff/gontractwyr sy’n cynnal gwaith ymchwil, gan gynnwys yr ymchwilydd/ymchwilwyr Mabwysiadu a Lledaenu. Bydd yn rhan annatod o uwch-dîm Comisiwn Bevan, gan gynrychioli’r Comisiwn yn fewnol (ym Mhrifysgol Abertawe) ac yn allanol fel y bo angen. Bydd hefyd yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng Comisiwn Bevan a'i waith a diddordebau ymchwil a datblygu ehangach yn yr adran ac yn y Brifysgol yn ehangach.

Dylai deiliad y swydd feddu ar hanes llwyddiannus o allu gweithio fel rhan o dîm, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gofal eithriadol i gwsmeriaid, gan arddangos barn heb ei hail i gyflawni canlyniadau'n llwyddiannus o fewn terfynau amser cytunedig ac i'r safon ofynnol.

 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho FHSS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr