Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00288
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Digidol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
27 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
5 Meh 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am Uwch-ddatblygwr Atebion sy'n arbenigo mewn data i ymuno â'n tîm Atebion Digidol yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Digidol.Mae'r rôl hon yn ganolog i wella ein galluoedd digidol ar draws y Brifysgol.

Mae'r brifysgol wedi dechrau ar brosiect o bwys i ail-gyflunio ei system cofnodion myfyrwyr ar y safle (Tribal SITS) er mwyn bod yn barod ar gyfer y cwmwl.Fel Uwch-ddatblygwr Atebion ar y prosiect hwn, byddwch yn cael y cyfle i lunio dyfodol y system hon, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion academaidd a gweithredol nawr ac yn y dyfodol.

Byddwch yn rhan o symud data i'n system cofnodion myfyrwyr newydd a'i hintegreiddio â systemau eraill y brifysgol ac oddi wrthynt.Bydd eich arbenigedd yn llywio'r prosiect, gan sicrhau bod yr holl atebion digidol yn rhai cadarn, bod modd eu cyflwyno ar raddfa a’u bod yn gyson â safonau uchel y brifysgol.

Profiad Hanfodol:

Rydym yn chwilio'n benodol am ymgeiswyr sy'n meddu ar brofiad sylweddol o symud data a defnyddio offer integreiddio megis SSIS a Mulesoft.Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ddatblygu a rheoli atebion digidol gan ddefnyddio’r offer hyn, a bydd yn dangos y gallu i ymdopi â'u cymhlethdodau a manteisio ar eu galluoedd i gyflawni amcanion y prosiect.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd - Gwasanaethau Proffesiynol Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr