- Rhif y Swydd
- SU00297
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 19 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 3 Meh 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rocio Perez-Tattam (she/hi) r.s.perez-tattam@swansea.ac.uk
- Greg Herman (he/fe) g.j.herman@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Byddwch yn ymuno ag Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, un o'r meysydd pwnc yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Mae cydweithwyr yn y maes hwn yn darparu addysgu ac ymchwil o fewn eu maes iaith benodol, yn cyfrannu at fodiwlau traws-ieithyddol mewn diwylliant, addysgu, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac yn ymgysylltu ag ysgolheictod perthnasol. Rydym yn cynnig ieithoedd Ewropeaidd - Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg - o lefel dechreuwyr i uwch (ar ôl Safon Uwch) (CEFR A1-C1), yn ogystal ag Arabeg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin, Catalaneg a Phortiwgaleg fel ieithoedd dewisol; a/neu ieithoedd llwybr o fewn gradd.
Ar lefel israddedig, mae Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn cynnig BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd fel graddau anrhydedd sengl, yn ogystal ag ystod o raddau cydanrhydedd a graddau anrhydedd cyfun. Rydym yn cefnogi cyfuniadau prif bwnc/pwnc atodol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a llwybr Ieithoedd Modern ar gyfer myfyrwyr busnes yn yr Ysgol Reolaeth. Rydym hefyd yn cynnig graddau ôl-raddedig mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol gydag ystod o ddewisiadau ieithoedd.
Yn y lle cyntaf, disgwylir i chi addysgu ac asesu iaith Ffrangeg ar yr holl lefelau astudio israddedig ac ôl-raddedig, o Ffrangeg i ddechreuwyr i Ffrangeg wedi Safon Uwch, yn cynnwys iaith gyffredinol a phroffesiynol, a datblygu'r ddarpariaeth hon fel bo angen. Mae posibilrwydd o gefnogi a datblygu addysgu arbenigol ym meysydd arbenigedd yr ymgeisydd llwyddiannus yn y dyfodol, yn amodol ar alw gan fyfyrwyr, argaeledd staff ac anghenion y maes pwnc. Mae dyletswyddau pellach yn cynnwys darparu gofal bugeiliol i nifer priodol o fenteion academaidd, goruchwylio prosiectau israddedig a chyfrannu at ddyletswyddau gweinyddol o fewn y maes pwnc uniongyrchol yn unol â chais gan Bennaeth yr Ysgol neu unrhyw un arall a ddirprwyir i weithredu â'i awdurdod.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai ymgeiswyr hefyd atodi datganiad byr (uchafswm o 800 gair) am eich maes arbenigedd a sut fyddai'n cyfrannu at wella ein harlwy