Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00261
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
6 Meh 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Kenny McKeegan Kenneth.mckeegan@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am benodi Uwch-ddarlithydd mewn Asesiadau a Phrofiad Myfyrwyr (Meddygaeth) ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion pedair blynedd o hyd (https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/meddygaeth/meddygaeth-i-raddedigion-mbbch/). Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu addysg feddygol ragorol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fodloni'r safonau a bennwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac i gefnogi ysgolheictod ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Bydd yn darparu cymorth academaidd drwy gydol y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion sy'n para pedair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn datblygu asesiadau dilys, defnyddiol a theg. Bydd ymdrechion ysgolheictod, ymchwil a rheoli deiliad y swydd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwaith academaidd y cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o ysgolion meddygaeth mwyaf blaenllaw’r DU. Mae'r Ysgol Feddygaeth yn rhan flaengar, ddynamig ac uchelgeisiol o’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe ac mae'n darparu ymagwedd ryngddisgyblaethol, gan addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd ac ymarferwyr iechyd proffesiynol. Mae'n cydweithredu â'r GIG, busnesau a'r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored ac mae wedi ei sefydlu ei hun fel lle o'r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi.  Mae'r Ysgol Feddygaeth ymysg y pump uchaf am ansawdd ymchwil (REF2021), ac fe'i rhestrir yn uchel yn gyson mewn tablau cynghrair addysgu amrywiol sy'n benodol i bynciau. Yr Ysgol Feddygaeth oedd yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ennill Gwobr Arian Siarter Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb yn 2015, ac ail-ddyfarnwyd y statws iddi yn 2019 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb. Mae’r Brifysgol hefyd yn ddeiliad Gwobr Arian Siarter Athena SWAN. Mae Abertawe'n lle gwych i fyw a gweithio - dyma'r porth i benrhyn Gŵyr a'i draethau hyfryd ac mae Bannau Brycheiniog gerllaw.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr